Fel rhan o ddathliadau Wythnos Gwaith Ieuenctid 2018, bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cynnal noson agored yng Nghanolfan Ieuenctid Aberteifi.

Yn cael ei gynnal ar nos Fercher, 27 Mehefin 2018, rhwng 6yh a 7:30yh, bydd y noson agored yn gyfle anffurfiol i bobl ifanc, teuluoedd, thrigolion lleol a phartneriaid i gymryd golwg o gwmpas y ganolfan, cwrdd â Gweithwyr Ieuenctid a mwynhau lluniaeth ysgafn.

Mae’r ganolfan yn arwain darpariaeth clwb ieuenctid wythnosol i bobl ifanc, ac mae’n cael ei ddefnyddio’n ddyddiol gan amryw o sefydliadau gwahanol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gan gynnwys Dysgu Bro, Hyfforddiant Ceredigion, Geidiaid a Ambiwlans St Johns.

Dywedodd Lowri Evans, Dirprwy Prif Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Ceredigion, “Yn cael ei gynnal rhwng 23 a 30 Mehefin, mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn gyfle grêt i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion ddathlu ac arddangos eu gwaith a’r ddarpariaeth sydd ar gael i bobl ifanc ar draws y Sir. Mae’r noson agored yng nghanolfan Ieuenctid Aberteifi yn gyfle perffaith i bobl ifanc, teuluoedd, ac aelodau o’r gymuned leol i alw mewn i weld beth sydd i’w gynnig. Estynnir croeso cynnes i bawb i ymuno â ni ac i fwynhau bwyd a lluniaeth yn rhad ac am ddim.”

Am fwy o wybodaeth, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i’r tudalennau Facebook neu Twitter ar @GICeredigionYS, wefan www.giceredigionys.co.uk/hafan neu cysylltwch â’r Tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

14/06/2018