Mae newidiadau yn digwydd i wasanaeth fflecsi Bwcabus o 27 Mehefin 2022.

Ni fydd y teithiau sefydlog canlynol yn rhedeg yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin/De Ceredigion mwyach o ddydd Llun, 27 Mehefin 2022, ond gall teithwyr deithio o hyd os ydynt wedi archebu ymaen llaw

612 – Pont-tyweli – Llandysul – Penrhiwllan – Llandyfriog – Castellnewydd Emlyn ar ddydd Mawrth

620 – Dihewyd – Mydroilyn – Aberaeron ar ddydd Mercher

688 – Llanbedr Pont Steffan – Llangybi – Tregaron rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn

Hefyd gwneir newidiadau’r i’r gwasanaeth canlynol – gweler yr amserlen

611 – Rhydlewis – Brongest – Castellnewydd Emlyn

613 – Llandysul – Pentre-cwrt – Saron

615 – Tanglawst – Capel Iwan – Penrherber – Castellnewydd Emlyn

616 – Temple Bar – Cribyn – Llanbedr Pont Steffan

617 – Rhydowen – Talgarreg – Gorsgoch – Llanbedr Pont Steffan

619 – Nebo – Pennant – Aberaeron

621 – Llandysul – Pont-tyweli – Llanfihangel-ar-arth – Pencader

Mae 'fflecsi Bwcabus' yn wasanaeth bysiau lleol sy'n darparu cyfuniad o wasanaethau llwybrau sefydlog a theithiau wedi'u harchebu ymlaen llaw.  Nod 'fflecsi Bwcasub' yw helpu pobl i wneud teithio lleol a chysylltu â gwasanaethau bws prif linell.  Mae bws yn eich casglu ar eich cais, gan newid ei lwybr fel y gall yr holl deithwyr gyrraedd lle mae angen iddynt fynd.

Gellir archebu’r gwasanaeth Bwcabus trwy ffonio 0300 234 0300 rhwng 6.00am a 11.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, a rhwng 7.00am i 7.00pm ar ddydd Sul.

Neu gellir lawrlwytho yr ap fflecsi i archebu. Mae’r ap yn dangos i chi ble mae’r gwasanaeth fflecsi, a ble fydd yn eich casglu a phryd fydd yn cyrraedd.

Ceir manylion pellach ynghylch y gwasnaeth ‘Fflecsi Bwcabus’ a dolen i lawrlwytho’r ap yma: https://bwcabus.traveline-cymru.info/cy/

24/06/2022