Y gwanwyn hwn, crëwyd ardal ecolegol amrywiol i ddenu gwenyn a pheillwyr eraill ym Mynwent Cefn Llan, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. Mae Tîm Cynnal a Chadw Tiroedd Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn brysur yn plannu gwahanol blanhigion yn rhan o’r prosiect Blodeuo.

Plannwyd wyth gwahanol rywogaeth o blanhigion yn ddiweddar. Gyda’i gilydd dylent greu ffynhonnell ynni werthfawr ar gyfer peillwyr am hyd at 11 mis o’r flwyddyn.

Mae adar, ystlumod, gloÿnnod byw, gwyfynod, pryfed, chwilod, gwenyn meirch, mamaliaid bach, ac yn bwysicaf oll, gwenyn yn beillwyr. Maent yn ymweld â blodau i yfed neithdar neu fwyta paill ac yn cludo gronynnau paill wrth iddynt symud o fan i fan.

Mae 85-95% o gnydau’r DU sy’n cael eu peillio gan bryfed yn dibynnu ar beillwyr gwyllt, sy’n peillio gwerth £690 miliwn o gnydau bob blwyddyn yn y DU.*

Mae’r planhigion sydd bellach yng Nghefn Llan yn cynnwys grugoedd y gwanwyn a’r gaeaf, crafanc yr arth, clafrllys, astrantia, mynawyd y bugail, garlleg, lafant a sarcococa.

Mae’r ardal laswelltog yng Nghefn Llan bellach yn cynnwys cymysgedd o hadau blodau gwyllt brodorol sy’n cynnwys naw gwahanol rywogaeth. Mae’r trefniadau torri porfa wedi cael eu hadolygu i wneud y mwyaf o’r rhain.

*Ffynhonnell: https://www.wildlifetrusts.org/savingbees

26/04/2022