Cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y bydd meysydd chwarae plant yn gallu ailagor yn raddol o 20 Gorffennaf ymlaen, a thros yr wythnosau nesaf pan fydd mesurau diogelu a lliniaru wedi cael eu rhoi ar waith.

Mae 86 o fannau chwarae cymunedol yng Ngheredigion. Mae 85 ohonynt naill ai yn eiddo i Gynghorau Tref a Chymuned neu Grwpiau Cymunedol neu yn cael eu rheoli ganddynt. Mae un yn eiddo i Gyngor Sir Ceredigion, sef Netpool yn Aberteifi. Bydd y man chwarae yn Netpool yn aros ynghau am y tro.

Cefnogwyd Rhwydwaith Mannau Chwarae Ceredigion gan y Cyngor i sicrhau, os byddant yn penderfynu ailagor eu cyfleuster yn ystod yr wythnosau nesaf, bod eu penderfyniad i wneud hynny yn seiliedig ar asesiad trwyadl o’r risgiau a’r mesurau a roddwyd ar waith i liniaru’r risgiau hynny.

Darparwyd canllawiau i aelodau Rhwydwaith Mannau Chwarae Ceredigion gan y Cyngor ynglŷn ag ailagor meysydd chwarae cymunedol yn ddiogel ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

20/07/2020