Mae Cered, Menter Iaith Ceredigion, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o wobrau cenedlaethol y Mentrau Iaith. Mae’r Seremoni Wobrwyo, sy’n digwydd am y tro cyntaf erioed ar 22 Ionawr, yn dathlu gwaith arbennig y rhwydwaith wrth hyrwyddo a chynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau yng Nghymru.

Mae CERED, sydd yn gweithio gyda phobl o bob oed i gynyddu a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion, wedi cyrraedd y 3 uchaf ar gyfer y categori ‘Datblygu Cymunedol’ a hynny ar sail eu gwaith gyda Iwcadwli.

Cerddorfa iwcalele yn Aberystwyth yw Iwcadwli a sefydlwyd gan Steffan Rees, un o Swyddogion Datblygu CERED, ym mis Hydref 2018. Mae’r gerddorfa yn perfformio yn helaeth mewn digwyddiadau lleol gan gyflwyno cerddoriaeth Gymraeg mewn ffordd unigryw a hwyliog i ymwelwyr a chynulleidfaoedd amrywiol lleol. Er taw Cymraeg yw iaith yr ymarferion a'r caneuon mae llawer o’r aelodau yn ddysgwyr Cymraeg ac yn gweld Iwcadwli fel cyfle i fagu hyder i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae’r gerddorfa yn mynd o nerth i nerth ac mae Steffan bellach yn cynnal sesiynau ychwanegol i gynnig hyfforddiant i’r rhai sydd am ymuno a’r gerddorfa am y tro cyntaf.

Dywed Non Davies, Rheolwr Cered, “Mae Cerddorfa Iwcadwli wedi bod yn gyfle arbennig i hybu’r Gymraeg yn ardal Aberystwyth gan dynnu aelodau o bob oed ac o wahanol gefndiroedd at ei gilydd. Mae aelodaeth y gerddorfa yn parhau i dyfu ac mae’n braf gweld cymaint yn cael mwynhad o ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol. Ry’n ni’n hynod o falch o gael ein henwebi ar gyfer gwobr genedlaethol sydd nid yn unig yn cydnabod llwyddiant y gwaith ond sydd hefyd yn rhoi cyfle i ni ddathlu’r llwyddiant hwnnw.”

Ynghyd â chategorïau ‘Cydweithio’, ‘Technoleg’, ‘Digwyddiad’ a ‘Gwirfoddoli’, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Noson Dathlu’r Mentrau Iaith yng Ngwesty’r Marine Aberystwyth ar 22 Ionawr, 2020.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithio i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau dros Gymru gan anelu i gynyddu’r nifer o siaradwyr i filiwn erbyn 2050 yn unol a strategaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cael eu henwebu i dderbyn gwobr. Rydyn ni’n buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y Mentrau Iaith drwy’r Grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg. Heb gymorth gwirfoddolwyr, ni fydd modd i’r Mentrau Iaith gynnig yr amrywiaeth helaeth o ddigwyddiadau trwy Gymru i gyd. Mae’r digwyddiadau ac ymyraethau hyn yn holl bwysig wrth sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg. Diolch i bawb am eu hymroddiad.”

Gallwch ddarganfod mwy ar y wefan yma: http://mentrauiaith.cymru/dathlur-mentrau-iaith/ 

14/01/2020