Mae rhaglen Ceredigion Actif ‘Ffit yn 5’, menter i gynyddu lefelau gweithgaredd plant sy’n rhedeg mewn dros 30 o ysgolion cynradd Ceredigion yn barod, nawr ar gael mewn meithrinfeydd a cyn-ysgolion ar draws y sir.

Mae’r prosiect ‘Ffit yn 5’ yn annog plant a phobl ifanc i wneud pum munud o weithgaredd corfforol bob dydd, yn ogystal ag amser chwarae a sesiynau datblygiad corfforol rheolaidd. Yn dilyn hyfforddiant ‘Ffit yn 5’, mae 27 staff mewn 21 sefydliad cyn-ysgol nawr yn ymrwymedig i gynnal sesiynau dyddiol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Mae’r rhaglen ‘Fit yn 5’ wedi bod yn lwyddiant mawr mewn ysgolion ar draws Ceredigion. Mae’n hyfryd clywed bydd meithrinfeydd a cyn-ysgolion nawr yn gallu cynnig yr un cyfleoedd i blant bach i godi eu lefelau gweithgaredd mewn ffordd hwyliog a deniadol. Mae dangos i blant ifanc bod cadw’n heini trwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous gyda ffrindiau yn bwysig iawn. Bydd gweithgaredd rheolaidd i gadw’n heini ac yn gorfforol yn sicrhau bod hyn yn dod yn rhan o’u trefn dyddiol wrth iddynt symud ymlaen trwy gydol eu bywydau.”

Sefydlodd Ceredigion Actif bartneriaeth gyda Gwasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion ac Adran Ysgolion Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cynhaliwyd hyfforddiant ar draws Ceredigion ar ddechrau mis Mehefin, ble cafodd adnoddau eu rhoi i bob sefydliad oedd yn cymryd rhan er mwyn helpu darparu’r sesiynau. Cafodd fideo ei greu i arddangos y prosiect i helpu cynorthwyo’r staff gyda hyfforddiant.

Mae nifer o fanteision i gymryd rhan yn y rhaglen yma, gan gynnwys datblygu sgiliau cymdeithasol, datblygu’r ymennydd, gwellhad mewn iechyd a phwysau yn ogystal â lles corfforol a seicolegol. Gall plant cymryd rhan tu fewn mewn neuadd neu tu allan unrhyw amser o’r dydd.

Dywedodd Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol Ceredigion Actif, “Rydym yn credu bod hyn yn ffordd effeithiol a chynaliadwy i gael plant yn egnïol yn rheolaidd gyda manteision pwysig corfforol, meddyliol a chymdeithasol. Bydd cyfleoedd i’r plant i ddatblygu eu llythrennedd corfforol tra bod nifer o sgiliau yn cael eu datblygu, yn ogystal â chynyddu eu ffitrwydd aerobig. Hoffwn ddiolch i’r holl ysgolion a meithrinfeydd sydd wedi ymrwymo i’r prosiect ac rydym yn edrych ymlaen gyda chyffro i weld y canlyniadau.”

I wylio fideo hyrwyddo rhaglen ‘Ffit yn 5’, ymwelwch â https://youtu.be/lGV0rpFDXfM

 

22/06/2018