Mae mannau gwefru cerbydau trydan wedi'u gosod ym mhrif swyddfeydd Cyngor Ceredigion; yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth ac ym Mhenmorfa yn Aberaeron. Mae'r mannau gwefru at ddefnydd y cyhoedd yn ogystal â'r staff.

Erbyn hyn, mae dau fan gwefru cerbydau trydan yn y ddau faes parcio, sy’n darparu cyfleusterau gwefru sydd ar gael i’w defnyddio 24 awr y dydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i ddiogelu'r amgylchedd ac wedi lleihau ei allyriadau carbon blynyddol gan 45% ers 2007. Mae hynny'n ostyngiad o dros 7,000 tunnell o CO2.

Dywedodd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion,“Mae hyn yn gynnydd gwych o ran sicrhau bod gan drigolion ac ymwelwyr Ceredigion fwy o leoliadau i wefru eu ceir trydan ledled y sir.

"Rydym yn gyngor amgylcheddol gyfrifol ac rydym yn gwneud ein gorau glas i leihau allyriadau carbon, diogelu ein hamgylchedd ac annog aelodau o'r cyhoedd i fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd drwy ddewis i yrru ceir sy'n llygru llai.

“Bydd gwerthuso pa mor aml y defnyddir y mannau gwefru newydd ar gyfer cerbydau trydan yn ein helpu i fesur y galw, a bydd hyn yn helpu i sicrhau cyllid ar gyfer mwy o fannau gwefru o amgylch y sir yn y dyfodol."

Mae ceir trydan gryn dipyn yn rhatach i'w rhedeg na cherbydau petrol neu ddisel. I wefru car trydan nes ei fod wedi’i wefru’n llawn, yn costio tua £4, a fydd yn galluogi’r car i deithio oddeutu 100 milltir. I gyrru 100 milltir mewn car petrol neu ddisel, yn costio rhwng £12 a £18, sef tua chwe gwaith cost car trydan.

Cysylltwch â chanolfan gyswllt gwasanaethau cwsmeriaid y cyngor ar 01545 570 881 am fwy o wybodaeth.

 

 

21/06/2019