Bydd y broses o osod tendrau ar gyfer darparu mannau cyhoeddus i wefru ceir trydanol yn swyddfeydd y Cyngor yn dechrau ar ôl i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion gymeradwyo prosiect ar 13 Chwefror 2018.

Bwriad y prosiect yw darparu mannau gwefru yn swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa yn Aberaeron, ac yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth. Bydd y mannau gwefru ar gael at ddefnydd y cyhoedd yn ogystal â staff y Cyngor.

Adroddodd papurau Cabinet bod ymchwil diweddar yn amlygu nad oes unrhyw fannau sydd ar gael 24 awr y dydd ar gyfer gwefru cerbydau trydanol, a dim ond pedwar lle i wefru’n sydyn sydd yng Ngheredigion. Mae’r cynnig yn golygu gosod system awtomatig gyda mannau i bobl wefru eu cerbydau a’r seilwaith cysylltiedig yn swyddfeydd Canolfan Rheidol a Penmorfa.

Dywedodd yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Reoli Carbon, Cynaliadwyedd a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Alun Williams, “Mae’r penderfyniad Cabinet yma yn gam pwysig i agor Ceredigion i ddefnydd ceir trydanol i drigolion ac ymwelwyr. Mae hefyd yn bwysig mewn cefnogi ein hamgylchedd lleol gan hybu pobl i yrru ceir sy’n llygru llai. Bydd y mannau gwefru newydd yn galluogi’r Cyngor i fesur y galw a bydd hyn yn helpu gyda chael cyllid ar gyfer mannau pellach o gwmpas y sir yn y dyfodol.”

Mae’r penderfyniad yn cefnogi blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o hybu’r economi, hyrwyddo cydnerthedd amgylcheddol a chymunedol ac i fuddsoddi yn nyfodol pobl.

13/02/2018