Mae dydd Llun, 21 Mawrth 2022, yn ddiwrnod hanesyddol i blant yng Nghymru wrth i gyfraith newydd ddod i rym sy’n golygu y bydd pob cosb gorfforol i blant yn anghyfreithlon.

O'r diwrnod hwn ymlaen, bydd pob plentyn yn cael yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion. Bydd unrhyw un sy’n cosbi plentyn yn gorfforol yn torri’r gyfraith yng Nghymru a bydd mewn perygl o gael ei arestio neu ei gyhuddo o ymosod.

Ym mis Ionawr 2020, pasiodd y Senedd Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o helpu i ddiogelu hawliau plant a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.

Nid yw’r newid yn y gyfraith yn creu trosedd newydd: mae’n dileu amddiffyniad cyfreithiol 160 oed a anfonodd y neges ei bod yn dderbyniol i blant gael eu cosbi’n gorfforol gan eu rhieni neu’r rheini ag awdurdod rhiant.

Cosb gorfforol yw pan fyddwch chi'n defnyddio grym corfforol i gosbi plentyn. Er mai smacio yw'r hyn sy'n dod i'r meddwl fel arfer, gall cosb gorfforol fod ar sawl ffurf gan gynnwys taro, slapio ac ysgwyd.

Dywedodd Gail Nolan, Gweithiwr Teulu, Tîm Teulu: “Rydym am wneud yn siŵr bod holl rieni Ceredigion yn ymwybodol bod y gyfraith yn newid ar 21 Mawrth ac y bydd cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon. Byddwn yn ymweld â nifer o leoliadau ar draws y sir yn y misoedd nesaf i godi ymwybyddiaeth o’r newid yn y gyfraith.”

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw Aelod y Cabinet ar gyfer Porth Ceredigion, Ymyrraeth Gynnar, Hybiau Lles a Diwylliant. Meddai, “Mae’r newid hwn yn bwysig iawn i deuluoedd a phlant ledled Cymru. Bydd y newid yn y gyfraith yn helpu i ddiogelu hawliau plant ac yn anfon neges glir nad yw cosbi plant yn gorfforol yn cael ei ganiatáu yng Nghymru.”

Os ydych yn pryderu am ddiogelwch neu les plentyn cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar 01545 574000 yn ystod oriau swyddfa neu 0300 456 3554 y tu allan i oriau. Os yw'r plentyn mewn unrhyw berygl ar y pryd cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys.

Mae rhagor o wybodaeth am y newid yn y gyfraith ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: https://llyw.cymru/stopio-cosbi-corfforol-i-blant

Os hoffech chi gysylltu, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt ein Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01545 570 881 neu drwy e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk

17/02/2022