Ar Nos Fawrth, 09 Ebrill, ymunodd dros 220 o bobl ifanc a’u teuluoedd o bob cwr o Geredigion gyda Gwasanaeth Ieuenctid i ddathlu eu Noson Wobrwyo flynyddol. Roedd y noson yn gyfle i ddathlu a chydnabod cyflawniadau a llwyddiannau’r holl bobl ifanc sydd wedi ymgysylltu â Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mynychodd bobl ifanc o bob ysgol uwchradd yng Ngheredigion, Coleg Ceredigion, Hyfforddiant Ceredigion, pobl ifanc sy'n gweithio gyda’r gwasanaeth allgymorth a'r holl bobl ifanc sy'n mynychu clybiau ieuenctid, prosiectau ieuenctid a darpariaethau dros y gwyliau. Darparwyd amrywiaeth eang o brosiectau, gweithgareddau a digwyddiadau unwaith eto y flwyddyn ddiwethaf gyda hyd at 5,000 o bobl ifanc yn mynychu. Bu’r rhain yn llwyddiannus oherwydd ymrwymiad a brwdfrydedd y bobl ifanc o bob rhan o Geredigion.

Y gwobrau arbennig y cyflwynwyd yn ystod y noson oedd gwobrau Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn, gwobrau Cyfraniad Rhagorol, Ymgyrch y Flwyddyn, Cyflawniadau Arbennig a gwobrau Ymgysylltu â’r Gymuned. Yn ogystal â’r categorïau gwobrau arbennig, dathlwyd a rhannwyd amryw o dystysgrifau lleol i bobl ifanc am iddynt gyflawni achrediadau cenedlaethol neu gyfranogi mewn clybiau a phrosiectau gwahanol.

Agorwyd y noson gan Catrin Miles, aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu a chafodd y noson ei arwain gan Beca Fflur Williams, Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Y siaradwyr gwadd ar y noson oedd Ashlie Day, Chloe Toose a Thomas Evans, Gwirfoddolwyr Ifanc y Gwasanaeth Ieuenctid. Cyflwynwyd y gwobrau gan Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion a Hag Harris, Cadeirydd Cyngor Sir Ceredigion. Dangoswyd clipiau ar y sgrin gan gynnwys gair wrth Ben Lake AS. Cafodd y noson ei gau gan Chelsea Jones a Louise Bryan, aelodau o Glwb Ieuenctid Penparcau.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol gyda chyfrifoldeb dros Ddysgu Gydol Oes a Diwylliant, “Mae’n destun balchder i’r Gwasanaeth Ieuenctid ac i’r Cyngor bod dros 400 o bobl ifanc wedi ennill gwobrau trwy’r Gwasanaeth Ieuenctid dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae darpariaeth Gwaith Ieuenctid yn hynod o bwysig i ddatblygiad pobl ifanc ar eu taith trwy fywyd. Mae ein clybiau ieuenctid, darpariaeth allgymorth, gwaith mewn ysgolion a’n rhaglenni gwyliau yn cynnig cyfleoedd amrywiol i bobl ifanc fod yn rhan o rywbeth sy’n eu diddori ac yn eu cefnogi nhw.”

“Mae’r nifer sydd wedi cyflawni gwobrau, achrediadau a thystysgrifau eleni yn dystiolaeth hefyd o ymroddiad a brwdfrydedd ein pobl ifanc ni ar draws y sir ac roedd yn bleser croesawu cymaint o’r bobl ifanc hynny a’u teuluoedd i ddathlu gyda ni yn Theatr Felinfach. Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonynt!”

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook, Instagram neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

18/04/2019