Cynhaliwyd Cyngerdd yng nghwmni Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies yn Theatr Felinfach ar Nos Sadwrn, 13 Ionawr, gyda’r noson wedi gwerthu allan ymhell cyn camu ar y llwyfan.

Mae’r ddau yn denoriaid direidus sy’n rhannu synnwyr digrifwch yn ogystal â chariad mawr at gerddoriaeth. Mae’r ddau hefyd yn enwau cyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd Cymru a’r byd yn sgîl eu gyrfaoedd unigol fel unawdwyr ac fel dau aelod o Tri Tenor Cymru. Daeth y ddau ynghyd mewn noson i ddathlu’r traddodiad o ganu deuawdau gan ganu deuawdau enwog o fyd yr opera a’r sioeau cerdd, emynau a chlasuron Cymraeg a chaneuon cyfoes.

Cafodd y gynulleidfa wledd yn gwrando ar rai o glasuron Ryan a Ronnie, Jac a Wil, Robat Arwyn a llawer mwy, a’r cyfan yn nwylo medrus Dilwyn Morgan gyda Menna Griffiths wrth y piano.

Yn rhan o’r arlwy hefyd cafwyd eitemau gan ddisgyblion o Ysgolion Cynradd Aberaeron a Felinfach.

Porwch wefan Theatr Felinfach i weld yr arlwy sydd ar gael dros y Gwanwyn https://theatrfelinfach.cymru/.

Llun: Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies gyda Ysgolion Cynradd Aberaeron a Felinfach

18/01/2018