Bu Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion unwaith eleni eto yn cyflwyno wythnos gynhwysfawr o gyfleoedd agored yn ystod hanner tymor mis Chwefror. Cynigiodd y rhaglen hanner tymor , saith brosiect gwahanol, gweithgareddau a digwyddiadau i bobl ifanc rhwng 11-25 oed ar draws y sir.

Cafodd 67 person ifanc y cyfle i ddatblygu sgiliau cyfredol a newydd megis hunan-barch, hyder, cyfathrebu a datrys problemau, pob un mewn amgylchedd anffurfiol, llawn hwyl lle cafwyd cyfle i gwrdd â phobl newydd, cael achrediadau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous.

Roedd darpariaeth eleni yn cynnwys gweithdy MMA, Prosiect Celf yn Aberystwyth, diwrnod gweithgaredd ôl-16, taith i ‘Blue Lagoon’ a bowlio yn sir Benfro a phreswyl penwythnos gyda’r Fforwm Ieuenctid.

Sicrhaodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion hefyd gyllid ychwanegol i allu darparu dau brosiect partneriaeth arall gyda gwasanaethau pobl ifanc, er mwyn ehangu'r cyfleoedd oedd ar gael i bobl ifanc yn ystod gwyliau'r ysgol. Roedd y prosiectau partneriaeth yn cynnwys taith preswyl i Gaerdydd gyda Thîm Plant sy'n Derbyn Gofal Ceredigion a Thîm Cyfiawnder ac Atal Ieuenctid Ceredigion, yn ogystal â diwrnod gweithgaredd beicio mynydd gyda Thîm Plant Anabl Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae’n braf gweld Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn darparu gwasanaeth o safon sydd yn amlwg o fudd i ein pobl ifanc yng Ngheredigion. Mae’r digwyddiadau yn gyfleoedd gwych, nid yn unig i fwynhau, ond hefyd i ddatblygu yn addysgol, yn bersonol ac yn gymdeithasol.”

Er mwyn darganfod mwy am hyn y mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ei gynnig, ewch i’w gwefan, tudalennau cyfryngau cymdeithasol @GICeredigionYS neu cysylltwch ar 01545572352 neu youth@ceredigion.gov.uk.

12/03/2019