Ysgol Llwyn yr Eos ym Mhenparcau yw'r ysgol gyntaf yng Ngheredigion i gynnal y Cynllun Bwyd a Hwyl i'w disgyblion.

Mae'r Cynllun Bwyd a Hwyl, sef menter gan Lywodraeth Cymru a’r Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLILC) yn gynllun ar gyfer ysgolion sy'n sicrhau ansawdd ac sy'n darparu prydau bwyd iach, addysg bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol a sesiynau cyfoethogi i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod gwyliau'r haf. Roedd y cynllun yn gyfle i blant a phobl ifanc gymdeithasu a chymryd rhan mewn ystod o weithgareddau yn eu cymunedau lleol.

Croesawodd Ysgol Llwyn yr Eos, a dreialodd y cynllun mewn partneriaeth â Ceredigion Actif, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Adran Arlwyo Cyngor Sir Ceredigion, Ysgolion Iach a Deietegwyr o Iechyd y Cyhoedd, 30 o blant ynghyd â'u teuluoedd trwy'r drysau dros yr haf. Cyflwynwyd y cynllun am dair wythnos yn ystod gwyliau'r haf, gan ddarparu amserlen gyffrous o weithgareddau a phrydau bwyd iach i'r cyfranogwyr. Ar ddiwedd pob wythnos, cafodd teuluoedd gyfle i ymuno â'u plant yn yr ysgol i gael cinio fel teulu.

Dywedodd Catrin Miles, aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu, Dysgu Gydol Oes a Hamdden, “Rydym yn hynod falch o Ysgol Llwyn yr Eos am eu gwaith yn cynnig y Cynllun Bwyd a Hwyl gyntaf o'i fath yng Ngheredigion. Roedd y cynllun yn cynnig ystod o gyfleoedd i blant gael hwyl, cymdeithasu a dysgu am eu hiechyd a'u lles. Mae'r cynllun hwn wedi profi'n llwyddiannus wrth bontio'r bwlch i lawer o ddisgyblion dros wyliau'r haf ac rydym yn gobeithio gallu ymestyn y cynllun i ysgolion cymwys eraill yn y sir y flwyddyn nesaf fel y bydd hyd yn oed mwy o blant a phobl ifanc yn elwa.”

Dywedodd Laura Mayos, un o Gydlynwyr y Cynllun, “Roedd y Cynllun Peilot Bwyd a Hwyl yn Ysgol Llwyn yr Eos yn llwyddiant ysgubol eleni ac rydym yn gobeithio gallu adeiladu ar y cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd yn wych gallu cynnig y ddarpariaeth i rai o'n disgyblion blwyddyn pedwar a phump gan gynnwys disgyblion o’n canolfannau anogaeth, yn ystod gwyliau'r haf. Yn aml gall gwyliau'r haf deimlo fel amser hir i rai plant a'u teuluoedd ac felly gwelsom werth y cynllun hwn i'n disgyblion a'n rhieni.

Gyda'n gilydd fe wnaethon ni greu amserlen llawn gweithgareddau addysgiadol a hwyl i'r disgyblion, a oedd yn cynnwys gweithdai blasu bwyd, gweithgareddau aml-chwaraeon, crefftau natur a choginio i enwi ond ychydig. Hoffem ddiolch i nifer o fusnesau ac archfarchnadoedd a roddodd yn garedig i'r cynllun, a alluogasom ni i ymestyn y gweithgareddau a'r profiadau yr oeddem yn gallu eu cynnig i'n disgyblion yn ystod cyfnod y cynllun.”

10/09/2019