Daeth Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion a nifer fawr o wobrau nôl i Geredigion o Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni. Cynhaliwyd y gwobrwyo ar ddydd Gwener, 28 Mehefin yn Neganwy, Gogledd Cymru. Daeth Gweithwyr Ieuenctid o ledled Cymru at ei gilydd i ddathlu rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal â dathlu 25 mlynedd o’r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid.

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru, yn cydnabod gwerth Gwaith Ieuenctid a Gwasanaethau Ieuenctid ledled Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi dathlu rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid ers 1993 ac mae'r dathliad hwn bellach yn eu 25ain blwyddyn. Dywedodd Llywodraeth Cymru, “Mae dathlu Gwaith Ieuenctid yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gan ein bod yn gwybod bod Gwaith Ieuenctid yn parhau i fod yn rhan bwysig o fywydau llawer iawn o bobl ifanc”.

Agorwyd y noson wobrwyo gan Keith Towler, Cadeirydd y Bwrdd Interim Gwaith Ieuenctid a chafwyd araith gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AC. Cyflwynwyd Gwobrau Marc Ansawdd Arian ac Aur ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, a chawsant hefyd nifer o wobrau arbennig.

Enillodd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion y wobr am eu ‘Prosiect 2050’ o dan y categori; Hyrwyddo Treftadaeth a Diwylliannau yng Nghymru a Thu Hwnt. Enillodd y Clwb Coginio yn Ysgol Henry Richard wobr o dan y categori; Hybu Iechyd, Lles a Ffyrdd o Fyw’n Egnïol ac fe wnaeth Thomas Evans o Glwb Ieuenctid Aberaeron ennill y wobr o dan y categori Gwirfoddolwr Eithriadol mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid.

Cyrhaeddodd y Rhaglen Ysbrydoli y rownd derfynol yn y categori; Hyrwyddo Ymgysylltiad ag Addysg Ffurfiol, Cyflogaeth a Hyfforddiant a chyrhaeddodd Lowri Evans y rownd derfynol yn y categori gwobr Gwneud Gwahaniaeth.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol â chyfrifoldeb dros Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Nid yw'n syndod i mi fod Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi ennill cynifer o wobrau arbennig, y mwyaf ledled Cymru! Mae derbyn y Gwobrau Marc Ansawdd Cenedlaethol Arian ac Aur, a chymaint o wobrau arbennig yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid Cymru eleni yn gyflawniad aruthrol. Roedd y noson wobrwyo a oedd yn dathlu Gwaith Ieuenctid rhagorol ledled y wlad yn gyfle gwych i'r Gwasanaeth Ieuenctid dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith gyda phobl ifanc yng Ngheredigion.”

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i’w tudalen Facebook, Instagram neu Twitter ar @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

29/07/2019