Bu Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn ddigon ffodus i dderbyn cynnig hael gan West Wales Holiday Cottages i gynorthwyo pobl ifanc â bwrsari arian parod yn ddiweddar.

Pwrpas y bwrsari oedd rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 11a 25 oed i wneud cais am £500, er mwyn helpu’u dyheadau i’r dyfodol. Derbyniwyd cyfanswm o 22 cais, yn amrywio o fentrau cymdeithasol i syniadau am brosiectau, digwyddiadau cymunedol a cheisiadau hyfforddi.

Cafodd y ceisiadau eu hystyried gan Fforwm Ieuenctid Ceredigion, sef panel o bobl ifanc sy’n hanu o bob cwr o Geredigion ac yn gwneud defnydd o Wasanaeth Ieuenctid y Sir. Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, daeth aelodau'r Fforwm Ieuenctid ynghyd a threulio sawl awr yn darllen ac yn trafod pob cais. Trwy ddefnyddio matrics sgorio, penderfynodd aelodau'r Fforwm Ieuenctid ddyfarnu'r bwrsari i ddau ymgeisydd llwyddiannus, am eu syniadau arloesol a'r effaith bosibl ar eu bywydau eu hunain ac ar fywydau pobl ifanc eraill yng Ngheredigion.

Roedd Paul Jones am ddefnyddio'r grant i ymgymryd â hyfforddiant pellach i ddarparu cyrsiau cymorth cyntaf i blant a phobl ifanc a hefyd i helpu prynu offer ar gyfer ei Grŵp Moch Daear a Grŵp Cadlanciau newydd yn Llanbedr Pont Steffan a cafodd ei wobrwyo gyda £350.

Roedd Corey-Jay Wells am ddefnyddio'r bwrsari i helpu lawnsio’i frand dillad ei hun ac i hyrwyddo Beicio Mynydd Lawr Llethr ymhellach trwy hyfforddi plant a phobl ifanc eraill a cafodd ei wobrwyo gyda £150.

Dywedodd Gethin Jones, Prif Swyddog Ieuenctid i Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, “Rydym yn ddiolchgar ac yn werthfawrogol iawn i West Wales Holiday Cottages am gynnig y cyfle hwn i bobl ifanc yng Ngheredigion. Fel ni ein hunain, mae West Wales Holiday Cottages yn cydnabod bod gan lawer o bobl ifanc sy'n byw yng Ngheredigion gyfleoedd prin i gael hyfforddiant, cefnogaeth a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd yr amgylchiadau economaidd-gymdeithasol. Roedd yn wych gweld ansawdd a nifer y ceisiadau a ddaeth i law. Mae hyn yn dangos bod yna bobl ifanc hyderus yng Ngheredigion sydd wedi’u hysgogi a’u hysbrydoli i gipio cyfleoedd fel hyn. Roedd y cyfle hwn hefyd yn brofiad grymus iawn i aelodau o'r Fforwm Ieuenctid a oedd yn teimlo'n falch ac yn freintiedig i benderfynu ar yr ymgeiswyr llwyddiannus. Yn bendant, roedd y penderfyniad yn un anodd iawn i'w wneud, ond fel grŵp maen nhw wedi dewis y rhai y teimlent oedd yn ei haeddu.”

Bydd Paul a Corey yn cael eu gwahodd i fynychu Noson Wobrwyo Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Theatr Felinfach ddydd Mawrth, 17 Ebrill am 4yp, lle bydd West Wales Holiday Cottages yn cyflwyno’u bwrsarïau iddynt ynghyd â'r holl bobl ifanc eraill a fydd yn cael gwobrau amrywiol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod o’r Cabinet a chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, Dechrau’n Deg, Tîm o amgylch y Teulu a Phencampwr Pobl Ifanc Ceredigion, “Hoffai Cyngor Sir Ceredigion longyfarch Paul a Corey wrth sicrhau’r bwrsari. Mae’n grêt i glywed am gyfleoedd fel hyn yng Ngheredigion sy’n galluogi pobl ifanc i ddilyn eu dyheadau. Rydym yn dymuno’r gorau iddyn nhw gyda’u syniadau a gobeithio y bydd hyn yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl ifanc eraill i ddilyn eu breuddwydion a’u syniadau eu hunain ar gyfer y dyfodol.”

Am fwy o wybodaeth neu i ddod o hyd i’r cyfleoedd sydd yn agored i chi, ewch draw i dudalen Facebook neu Twitter Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion sef @GICeredigionYS neu cysylltwch â’r Tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

12/03/2018