Ar 10 Rhagfyr, mabwysiadwyd gan Ddŵr Cymru y safle system trin carthion (STC) cyntaf, ym Metws Bledrws fel rhan o brosiect ehangach i uwchraddio safleoedd STC yng Ngheredigion. Y safle yw’r cyntaf o 26 yng Ngheredigion i gael eu trosglwyddo.

Mae’r trosglwyddiad yn rhan o brosiect sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Ceredigion i uwchraddio safleoedd STC adfeiliedig o’r cyfnod wedi’r Rhyfel i fod yn safleoedd cynaliadwy ac effeithlon sy’n cwrdd ag anghenion mabwysiadu Dŵr Cymru. Nid yw’r safleoedd STC yn gallu ymdopi â gofynion cyfradd llif modern heb yr uwchraddiad.

Dywedodd yr aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Rhodri Evans, “Mae gwaith trin carthion yn aml yn cael ei esgeuluso, ond mae’r gwasanaeth hanfodol hwn yn cyflwyno her sylweddol mewn cymunedau gwledig.”

“Mae’r prosiect yma yn darparu gwell gwasanaeth sy’n fwy cost effeithiol i’r trigolion sy’n defnyddio’r systemau trin carthion. Mae swyddogion cyngor wedi gweithio yn agos â Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i wneud hyn i ddigwydd, ac mae’n dda i weld y mabwysiadu cyntaf yn digwydd.”

Mae’r prosiect Mabwysiadu Systemau Trin Carthion wedi deillio o Gytundeb Trosglwyddo Stoc Tai 2009 rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Thai Ceredigion.

Mae 26 system trin carthion yng Ngheredigion yn gwasanaethu dros 250 eiddo mewn cymunedau gwledig, sy’n amrywio o system fach sydd wedi’i chysylltu â thri tŷ a’r system fwyaf yn gwasanaethu 24 tŷ.

Drwy gydweithio â Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Tîm Prosiect yn adeiladu Systemau Trin Carthion sy’n fodern, yn gynaliadwy, yn effeithlon ac yn well i’r amgylchedd. Ynghyd â gwella’r system trin carthion, bydd y rhwydwaith draenio carthffosydd budr hefyd yn cael ei wella.

24/01/2019