Ar 17 Gorffennaf, ailagorwyd rhannau o Lwybr Arfordir Ceredigion a gaewyd dros dro.

Caewyd rhannau o’r llwybr ddechrau mis Ebrill er lles iechyd y cyhoedd oherwydd pandemig y Coronafeirws. Gan fod cyfyngiadau’r cyfnod clo yn cael eu llacio’n raddol, gall aelodau’r cyhoedd bellach ddefnyddio’r llwybrau yn ofalus; gan gadw’r canllawiau cyfredol o ran y Coronafeirws mewn cof.

Er mwyn mwynhau’r llwybrau’n ddiogel, cofiwch y canlynol:

  • Mae lled y llwybr yn amrywio, ac yn llai na 2m mewn rhai mannau, felly wrth basio eraill neu roi lle iddynt basio, dylech droedio’n ofalus a chadw at y llwybr lle bo modd
  • Defnyddiwch hylif diheintio dwylo’n rheolaidd, yn enwedig o amgylch gatiau a chamfeydd
  • Cynlluniwch ymlaen llaw er mwyn gwneud y gorau o’ch siwrnai. Ewch i wefan Darganfod Ceredigion am ragor o wybodaeth ynghylch tablau llanw lleol, teithiau cerdded lleol, cysylltiadau gwybodaeth ac apiau a lawrlwythiadau am ddim www.darganfodceredigion.cymru/cynllunio-eich-ymweliad
  • Cofiwch ddilyn y Cod Cefn Gwlad www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/yr-arfordir-a-chefn-gwlad/y-cod-cefn-gwlad

Oherwydd tirlithriad yn Wallog, mae gwyriad dros dro ar y llwybr rhwng Wallog a’r Borth. I gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag unrhyw wyriadau dros dro ar y llwybr, ewch i: www.walescoastpath.gov.uk/latest-news/temporary-path-diversions/?lang=cy

20/07/2020