Cynhaliwyd diwrnod llesiant yn Aberaeron ar ddydd Mercher, 6 Mawrth 2019 i rieni/gofalwyr Ceredigion, a gynhaliwyd gan Tîm Plant Anabl. Cynigiodd Grŵp cefnogi rhwydwaith lles Ceredigion therapïau cyflenwol ar gyfer gwesteion gan gynnwys tylino, reiki ac iachâd sain.

Darparwyd bwyd yn hael gan Medina, M&S, Greggs, The Treehouse ac Spar yn Aberystwyth a Costcutters yn Aberaeron. Cafodd rheini/gofalwyr siawns i fwynhau gweithgareddau crefft gan gynnwys peintio inc a sialc a sesiwn creu gemwaith a gafodd eu cynnal a'u rhoi'n garedig gan y Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol.

Mae’r cyngor yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth barhaus sefydliadau a nawdd gan Deuluoedd yn Gyntaf ac oddi wrth y Tîm Plant Anabl sy’n eu galluogi i gefnogi rhieni/gofalwyr drwy gynnal diwrnodau lles. Gobaith y tîm plant anabl yw bod y digwyddiad yn rhoi cyfle i rieni/ gofalwyr ymlacio a chwrdd â rhieni/gofalwyr eraill.

Hoffai'r Tîm Plant Anabl ddiolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad i'w wneud yn brynhawn pleserus. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Plant Anabl ar timplantanabl@ceredigion.gov.uk neu 01970 627016.

15/03/2019