Cynhaliwyd Cered: Menter Iaith Ceredigion cystadleuaeth Minecraft er mwyn rhoi cyfleoedd i blant i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg tu allan i oriau ysgol. Mae Cered yn awyddus iawn i barhau i ddatblygu rhaglenni sy’n hyrwyddo’r Gymraeg. Yn ystod y misoedd nesaf, mae Cered yn awyddus i drefnu gweithdy creu Ap er mwyn rhoi cyfleoedd hwyliog ac arloesol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Rhodri Francis, Swyddog Datblygu Cered, “Mae’n wych i roi’r cyfleoedd yma i blant yng Ngheredigion. Mae’r sgiliau maent yn datblygu yn sgiliau a bydd yn hanfodol trwy gydol ei bywydau fel gweithio mewn tîm, sgiliau arwain, sgiliau creu a chyflwyno. Llongyfarchiadau enfawr i'r ddisgyblion canlynol o Ysgol Pro Pedr; Taylor Lewis, Cai Allen, Kondrad Sygyda a Dwylan Jenkins a enillodd y gystadleuaeth Minecraft Cered 2019. Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Cari Hallgarth ac Osian Hallgarth o Ysgol Bro Teifi. Llongyfarchiadau!”

19/02/2019