Hyrwyddwyd cyfleoedd gyrfaol a phrentisiaethau gyda'r cyngor yn yr ŵyl gyrfaoedd a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 19 Chwefror. Bu dros fil o ddisgyblion o’r ysgolion uwchradd ar draws Ceredigion yn y digwyddiad a drefnwyd gan Gyrfaoedd Cymru.

Cyn y digwyddiad, dosbarthwyd 1,000 o docynnau aur i ysgolion ledled Ceredigion. Ymwelodd disgyblion â stondin gyrfaoedd y cyngor er mwyn cyflwyno eu tocynnau i’r gystadleuaeth.

Yr enillydd lwcus oedd Daniel Romneypaterson, disgybl blwyddyn 10 o Ysgol Penglais, Aberystwyth. Enillodd Daniel iPad a rhoddodd yn garedig gan gwmni technoleg gwybodaeth o’r enw Insight UK.

Bydd y Tîm Dysgu a Datblygu yn dechrau ei ymgyrch recriwtio nesaf ar gyfer prentisiaethau ar 15 Gorffennaf 2019 ac maent yn edrych ymlaen at dderbyn ceisiadau.

Am ragor o wybodaeth am brentisiaethau yng Nghyngor Sir Ceredigion, anfonwch neges e-bost at: prentis@ceredigion.gov.uk, cysylltwch â’r ganolfan gyswllt at 01545 570 881 neu ewch i'r gwefan: gyrfa.ceredigion.gov.uk.

19/03/2019