Ar Nos Wener 7 Mehefin 2019 am 7:30yh, bydd Lloyd Macey, sy’n adnabyddus ar ôl ymddangos ar y sioe deledu ‘X Factor’ yn perfformio yn Theatr Felinfach.

Mae Lloyd wedi diddanu miliynau o wylwyr teledu dros y byd fel cystadleuydd yr X Factor. Cefnogodd y grŵp marched, ‘Little Mix’ ar eu taith ‘The Glory Days’, ac mae wedi perfformio’n fyw i dros 150,000 o bobl dros Brydain ac Iwerddon.

Mae Lloyd hefyd wedi ennill llwyddiant sylweddol gydag anthem yr haf 2018 ‘Here With You’. Cyrhaeddodd y gân rhif chwech yn y siartiau swyddogol Prydeinig. Hefyd, Lloyd oedd un o brif sêr Cyngerdd Mawreddog Dathliadau Deucanmlwyddiant Cymru Ohio yn Aberaeron y llynedd.

Yn ystod ei gyngerdd yn Theatr Felinfach bydd Lloyd yn canu amrywiaeth eang o ganeuon poblogaidd, gan gynnwys caneuon gwreiddiol ei hun. Yn ymuno ag ef fydd pedwar cystadleuydd y bydd yn mentora ar y rhaglen ‘Junior Eurovision’ eleni.

Mae tocynnau ar gael am £15 i oedolion, £14 i aelodau a phensiynwr ac £8 i fyfyrwyr a phlant. Mae ticedi ar gael yn y swyddfa docynnau yn Theatr Felinfach dry ffonio 01570 470697 neu ar- lein ar www.theatrfelinfach.cymru.

04/06/2019