Gyda chyfyngiadau yn llacio ymhellach, atgoffir preswylwyr ac ymwelwyr i fwynhau Ceredigion yn ddiogel ac yn gyfrifol.

Bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd 2 ddydd Llun, 17 Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi.

Mae’r newidiadau i gyfyngiadau’r coronafeirws, a ddaw i rym ddydd Llun 17 Mai, yn cynnwys y canlynol:

  • Gall lleoliadau lletygarwch dan do ailagor - gall chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed) archebu
  • Gall pob llety gwyliau ailagor yn llawn
  • Gall lleoliadau adloniant, gan gynnwys sinemâu, canolfannau chwarae dan do, arcedau difyrion a theatrau ailagor. Gall sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon werthu bwyd a diod cyn belled â’i fod i’w fwyta a’i yfed wrth eistedd i wylio’r perfformiad;
  • Gall atyniadau dan do i ymwelwyr ailagor, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau;
  • Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau priodas ac angladd.

Bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau ddydd Llun 17 Mai ond caiff mesurau diogelu ychwanegol eu rhoi ar waith ar gyfer y rheini sy’n dychwelyd o rai gwledydd er mwyn atal y coronafeirws rhag dod yn ôl i mewn i Gymru. Bydd system goleuadau traffig yn cael ei chyflwyno, a fydd yn cyd-fynd â’r system a fydd yn cael ei defnyddio yn Lloegr a’r Alban. Bydd gwledydd yn cael eu dosbarthu i gategorïau gwyrdd, oren a choch. Mae hyn yn golygu y gall pobl sy’n byw yng Nghymru deithio i nifer bach o gyrchfannau tramor heb orfod bod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd. Mae cwarantin yn orfodol o hyd i’r rhai sy’n cyrraedd o wledydd nad ydynt ar y rhestr werdd.

O ddydd Llun 24 Mai ymlaen, bydd statws brechiad ar gael ar bapur i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechiad ac sydd angen teithio ar frys i wlad sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddangos prawf o’u brechiadau Covid.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ond pan fydd hynny’n hanfodol.

Mae angen bod yn wyliadwrus o hyd gan fod y coronafeirws yn dal gyda ni. Rhaid i drigolion ac ymwelwyr Ceredigion barhau i ddilyn y canllawiau i gyfraddau heintiau Covid-19 aros yn isel. Mae cadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi dwylo yn rheolaidd yn hanfodol er mwyn cadw ein sir yn ddiogel.

Mwynhewch Geredigion yn ddiogel ac yn gyfrifol.

14/05/2021