Mae lefelau coronafeirws yn dal i fod yn beryglus o uchel yng Ngheredigion.
Yn ôl y data swyddogol diweddaraf, bu 129 achos positif yng Ngheredigion yn yr wythnos hyd at 08 Ionawr.
Gyda nifer pryderus iawn o achosion ledled y sir, mae Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i breswylwyr wneud y peth iawn a dilyn cyfyngiadau Rhybudd Lefel 4 Cymru gyfan. Rhaid i breswylwyr barhau i ddilyn y cyfyngiadau ac aros adref i achub bywydau.
Bellach mae'n bwysicach nag erioed ein bod i gyd yn dilyn y canllawiau holl bwysig. I gadw Ceredigion yn ddiogel:
- aros gartref
- cwrdd â'r bobl rydych chi'n byw gyda nhw yn unig
- gweithio gartref os gallwch chi
- gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen
- golchi eich dwylo yn rheolaidd
- agor ffenestri i adael awyr iach i mewn
- aros 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydych chi'n byw gyda nhw neu nad ydyn nhw yn eich swigen gefnogol
- peidiwch â theithio heb esgus rhesymol
- hunan-ynysu ar unwaith gyda unrhyw symptomau o’r coronafeirws a threfnu prawf ar unwaith, gan adael y cartref yn unig i gael prawf. Mae angen archebu prawf ar-lein neu trwy ffonio 119.
Mae'r cyfyngiadau hyn yn golygu mai ychydig iawn o resymau sydd dros adael eich cartref. Mae'r rhain yn cynnwys:
- siopa am hanfodion
- gweithio, os na allwch weithio gartref
- ymarfer yn lleol gydag aelodau o'ch cartref neu gynnal swigen. Dylid gwneud ymarfer corff yn lleol o'ch cartref ac ni ddylai fod angen teithio.
I gael mwy o wybodaeth am Rhybudd Coronafeirws Lefel 4 ac atebion i gwestiwn cyffredin, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Gyda’n gilydd, dewch i ni gadw Ceredigion yn ddiogel.
13/01/2021