Mae’n bleser gan Cered - Menter Iaith Ceredigion a Code Club, sydd yn rhan o’r Raspberry Pi Foundation, gyhoeddi lansiad prosiect Clybiau Codio. Cynhelir y lansiad ar stondin Mentrau Iaith Cymru yn Eisteddfod yr Urdd 2018, bore dydd Mawrth 29 Mai, rhwng 10yb a 12yp.

Bydd cyfle i rieni, athrawon a phlant i gael golwg ar y deunyddiau newydd sydd wedi eu creu ar gyfer cynnal Clybiau Codio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb i alw yn stondin Mentrau Iaith Cymru yn ystod y lansiad i gael golwg ar y prosiect. Bydd yr adnoddau hefyd ar gael ar-lein https://projects.raspberrypi.org/cy-GB/codeclub

Cafodd y prosiect ei ariannu gan Grant Cymraeg 2050, sydd yn elfen allweddol o Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.

Dywedodd Llinos Hallgarth, Swyddog Datblygu Cered, “Mae wedi bod yn bleser i ni fel Cered i fod ynghlwm â’r prosiect yma ar y cyd â Code Club, ac i ddatblygu’r adnoddau sydd ar gael i ddysgu codio trwy gyfrwng y Gymraeg i blant. Yn ystod y sesiynau hyfforddi, rydym wedi cael cyswllt gyda athrawon a gwirfoddolwyr ar draws Ceredigion a’r de orllewin sydd eisiau cychwyn clybiau codio yn eu hardal, ac mae’n wych ein bod ni wedi paratoi’r adnoddau trwy’r prosiect yma fel eu bod yn gallu mynd ati i wneud hynny.”

Mae Cered a Code Club wedi creu 21 o brosiectau Scratch yn Gymraeg sydd ar gael i’w defnyddio ar gyfer rhwydwaith cynyddol o 494 o glybiau codio sydd yn bodoli yng Nghymru yn barod. Yn rhan o’r grant, cynhaliwyd pum sesiwn Hyfforddi’r Hyfforddwr i ddatblygu sgiliau gwirfoddolwyr ac athrawon, ac i roi’r hyder i sefydlu Clybiau Codio newydd yn eu cymunedau.

Dywedodd Adam Williams, Cydlynydd Cymru Code Club, “Mae creu prosiectau codio yn Gymraeg wedi bod yn gam mawr ymlaen yn y ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgu codio yng Nghymru. Mae nifer o glybiau codio yn bodoli yn barod mewn ardaloedd Cymraeg, ac mae’n wych bod adnoddau iddynt nawr yn Gymraeg i barhau i wneud hynny. Rydyn ni’n falch iawn i fod wedi datblygu’r adnoddau ar y cyd gyda Cered, ac mae wedi bod yn braf cyfarfod cymaint o wirfoddolwyr ac athrawon sydd eisiau bod yn rhan o hyn. Mae dysgu codio yn dy famiaith yn hynod o bwysig - rydym yn credu yn gryf bod codio i bawb, ymhob iaith!”

Mae Lowri Johnston wedi chwarae rhan allweddol trwy gydol y prosiect, gan gynnwys cyd-gyflwyno 5 sesiwn hyfforddi ar draws Cymru. Bydd Lowri ynghyd â Cered a Code Club yn bresennol yn y lansiad yn dangos yr adnoddau ar stondin Mentrau Iaith Cymru yn yr Eisteddfod.

I ddysgu mwy am Cered, sy’n rhan o Gyngor Sir Ceredigion, ewch i’w gwefan; www.cered.cymru.

Llun: Sesiwn Clwb Codio yn Ysgol Bro Teifi

24/05/2018