Mae cynllun peilot newydd wedi ei lansio ar Rodfa’r Gogledd, Aberystwyth er mwyn helpu hyrwyddo arferion positif yn ymwneud â gwastraff yng nghanol y dref.

Yn rhan o’r fenter, bydd biniau cymunedol ag olwynion yn cael eu darparu i’r ardal beilot ar y prynhawn cyn y cesglir y gwastraff fel arfer. Bydd y biniau’n darparu modd o gadw’r gwastraff o’r amser y caiff ei gyflwyno hyd nes y caiff ei gasglu. Bydd amddiffyn y gwastraff rhag cael ei ymosod arno gan anifeiliaid, megis gwylanod, yn helpu i gadw strydoedd canol y dref yn lân.

Bydd y dull newydd hefyd yn helpu mwy o drigolion lleol i wneud y defnydd gorau o’r gwasanaethau casglu gwastraff bwyd ac ailgylchu, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn eiddo lle nad oes llawer o le i gadw gwastraff. Yn ogystal â helpu’r amgylchedd, bydd lleihau nifer y gwastraff y gellir ei ailgylchu sy’n cael ei roi mewn bagiau du yn helpu i sicrhau yr ymdrinnir â’r gwastraff yn y modd mwyaf effeithlon a chost effeithiol â phosib.

Bydd y dyddiau casglu a pha mor aml y cesglir y gwastraff yn aros yr un fath. Darperir biniau ag olwynion ar gyfer ailgylchu a gwastraff bwyd bob wythnos, a phob pythefnos ar gyfer bagiau du. Dylid cyflwyno’r gwastraff yn y bin cywir erbyn 8yb ar y diwrnod y cesglir y gwastraff.

Unwaith y cesglir y gwastraff, bydd y biniau’n cael eu symud, a bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw broblemau a allai godi pe baent yn cael eu gadael yno’n barhaus, er enghraifft achosi rhwystradau ac annibendod diangen ar y stryd, yn ogystal â chael eu cam-ddefnyddio ac achosi tipio anghyfreithlon.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, yr Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Rwy’n cefnogi’r fenter hon yn llwyr. Mae’n enghraifft o’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau er mwyn datrys problemau. Rwy’n gobeithio y bydd y fenter yn un llwyddiannus, ac edrychaf ymlaen at weithio’n agos â’n cymunedau i feddwl am atebion creadigol i ddatrys problemau yn y dyfodol.”

Rhoddwyd y cynllun ar waith ar 6 a 7 Awst 2018. Os bydd yn llwyddiannus, ystyrir ehangu’r peilot i gynnwys ardaloedd eraill lle gallai weithio. Ystyrir dulliau eraill o gefnogi arferion positif yn ymwneud â gwastraff yn Aberystwyth a Cheredigion yn gyffredinol hefyd cyn cyflwyno system casglu gwastraff domestig newydd yn 2019.

13/08/2018