Lansiwyd gwefan newydd sy’n darparu ffynhonell siop-un-stop ar gyfer gwybodaeth ar gefnogi llesiant yng Ngheredigion ac yn genedlaethol ar 26 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru. Adnodd ar-lein yw Dewis Cymru sydd â chyfarwyddiadur (directory) sy’n dangos ystod o gyfleoedd, digwyddiadau a gwasanaethau yn y gymuned.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros Gyswllt Cwsmeriaid, y Cynghorydd Ray Quant MBE, “Mae meithrin llesiant ein trigolion yn flaenoriaeth i’r Cyngor a thrwy lansio Dewis Cymru, mae gan drigolion Ceredigion adnodd amhrisiadwy iddynt ddefnyddio i gefnogi eu llesiant.

Gellir uwchlwytho unrhyw fath o adnodd sy’n gallu cefnogi llesiant i’r cyfarwyddiadur. Er enghraifft, efallai bod grŵp cyfeillgarwch yn cynnal borau coffi rheolaidd, bod grŵp cymunedol yn trefnu teithiau cerdded yn yr ardal leol, neu efallai bod tafarn yn cynnal nosweithiau meic agored. Mae modd hefyd uwchlwytho digwyddiadau un-tro. Dw i’n galw ar unrhyw drigolyn yng Ngheredigion sydd eisiau gwella safon eu bywyd i fynd i wefan Dewis Cymru a gweld beth sydd ar gael iddynt.”

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu Dewis Cymru fel ei gyfarwyddiadur o ddewis i helpu trigolion i ddarganfod y cyfleoedd yn eu cymunedau y gall wella eu llesiant. Mae’r Cyngor wedi bod yn hwyluso lansiad Dewis Cymru yng Ngheredigion ac wedi bod yn cefnogi grwpiau, elusennau a busnesau i uwchlwytho eu gwybodaeth i’r wefan. Bydd Dewis Cymru yn adnodd pwysig i’r Cyngor gan y bydd yn galluogi i restru ei wasanaethau ar y wefan.

I ddysgu mwy am Dewis Cymru, ewch i’w gwefan ar www.Dewis.cymru. Os hoffech ddysgu mwy am Dewis Cymru yng Ngheredigion a sut i uwchlwytho gwybodaeth am eich grŵp, sefydliad neu fusnes, cysylltwch â ni ar 01545 570881 a gofynnwch am Cyra Shimell neu ebostiwch Cyra.Shimell@ceredigion.gov.uk.

31/07/2018