Mae menter newydd wedi cael ei lansio ar draws meithrinfeydd Ceredigion i sicrhau bod plant meithrin yn fwy actif. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan y Tîm Pobl Ifanc Egnïol o Geredigion Actif, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, nod y cynllun yw cynyddu gweithgaredd corfforol plant, cynyddu nifer y rhieni sy'n cymryd rhan yn natblygiad eu plentyn a rhoi’r cyfle i’r plant ddatblygu sgiliau allweddol.

Mae tri deg un o feithrinfeydd ar draws Ceredigion wedi cael eu gwahodd i fod yn rhan o’r cynllun. Mae pob meithrinfa wedi derbyn amrywiaeth o offer a fydd yn galluogi staff i sefydlu gweithgareddau a fydd yn sicrhau bod y plant yn cadw’n heini. Bydd hyn yn helpu’r plant i ddatblygu sgiliau sylfaenol megis neidio, taflu, dal a chydbwyso. Hefyd, bydd meithrinfa yn derbyn dau feic cytbwys a helmedau.

I gefnogi’r fenter newydd, mae Meithrinfa Ffrindiau Bach Tegryn yn Aberporth wedi ffilmio 22 fideo byr o'r plant yn cymryd rhan mewn enghreifftiau o'r sgiliau. Bydd y fideos yn cael eu rhannu’n fuan gyda phob meithrinfa yng Ngheredigion ac ar gael ar y wefan ‘YouTube’ i'r rhieni eu gweld o dan yr enw ‘Meithrinfeydd 2019’.

Mae staff Pobl Ifanc Egnïol yn ymweld â phob meithrinfa i sicrhau bod staff yn barod i gyflawni pob agwedd o’r prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, aelod Cabinet dros Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, "Mae'r prosiect hwn yn allweddol i ddatblygiad ac iechyd plant meithrin ledled Ceredigion. Y prif bwrpas yw dylanwadu ar blant a'u rhieni ar agweddau cadarnhaol o fod yn actif. Gall mentrau fel y rhain gael effaith barhaol wrth i blant fynd drwy wahanol gamau eu datblygiad. "

Mae canllawiau'r Prif Swyddog Meddygol yn nodi y dylai plant dan bump fod yn weithredol am dair awr y dydd felly anogir pob plentyn i gymryd rhan bob dydd.

Am fwy o wybodaeth Cysylltwch ag Alwyn Davies, Rheolwr Pobl Ifanc Egnïol ar 01970 633 695 neu drwy e-bost ar Alwyn.Davies@ceredigion.gov.uk.

03/04/2019