Cynhyrchwyd llyfryn newydd Byw a Bod trwy gydweithio Theatr Felinfach, Cered, ac Adran Addysg Ceredigion.

Nod y llyfryn yw rhannu manteision bod yn ddwyieithog a chynnig awgrymiadau a ffyrdd o wneud hynny. Wedi ei lansio ym Mhenmorfa, Aberaeron, yn y llyfryn ceir wybodaeth am fudiadau amrywiol sy’n darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â gwybodaeth am wersi Cymraeg i Oedolion, ynghyd ȃ chynghorion ar gyfer llwybr i’r Gymraeg drwy’r gwasanaeth addysg.

Wedi derbyn y llyfr gan Barry Rees, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion, dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg, “Rwy'n falch iawn o groesawu Llyfryn Byw a Bod sydd wedi'i gynhyrchu fel adnodd i drigolion Ceredigion. Mae’r llyfryn yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn adlewyrchu gofyniad Safonau’r Gymraeg y Cyngor.”

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi’r iaith Gymraeg a’r diwylliant, gan sicrhau bod ei wasanaethau a’i weithgareddau yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ledled y sir, fel y mae’r Cynghorydd ap Gwynn yn esbonio ymhellach, “Mae’r iaith Gymraeg yn elfen naturiol o fywyd bod dydd yng Ngheredigion ac mae’n adlewyrchiad o’i thraddodiadau a’i diwylliant. Mae cynaliadwyedd yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar y broses o wella cymunedau Cymraeg trwy ddarparu digon o gyfleoedd addysgol, diwylliannol a chymdeithasol i ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd. Mae’r llyfryn hwn yn offeryn ardderchog yn rhestru’r holl grwpiau cymunedol a digwyddiadau sydd ar gael i bawb.”

Cafodd y llyfryn ei ddosbarthu ac mae ar gael mewn Meithrinfeydd, Ysgolion, Llyfrgelloedd, Swyddfeydd y Cyngor, gydag Ymwelwyr Iechyd ac mewn nifer o fannau cyhoeddus eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu, “Mae’r gyfundrefn addysg yn allweddol ar gyfer cynhyrchu siaradwyr Cymraeg i’r dyfodol, ac felly’n hanfodol ar gyfer ymarferoldeb yr iaith Gymraeg yng Ngheredigion. Nod y Cyngor yw addysgu disgyblion i fod yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt adael yr ysgol. Mae’r llyfryn hwn yn nodi’r elfennau cadarnhaol a geir wrth astudio’n ddwyieithog. Bydd yn adnodd gwerthfawr i rieni a myfyrwyr fel ei gilydd i fyfyrio ar y nodweddion hyn a meithrin balchder o fod yn ddwyieithog. Diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â chynhyrchu'r adnodd gwerthfawr hwn.”

Gellir gweld a lawrlwytho llyfryn Byw a Bod ar wefan y Cyngor: http://www.ceredigion.gov.uk/media/3669/llyfryn-byw-a-bod-booklet.pdf

03/05/2018