Mae cyllid wedi cael ei gadarnhau y bydd yn helpu cartrefi bregus yng Ngheredigion i baratoi ar gyfer y gaeaf.

Gyda misoedd y Gaeaf yn agosáu a biliau gwres yn cynyddu, mae Cyngor Sir Ceredigion a Cyngor ar Bopeth Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid trwy Gronfa Cartrefi Cynnes o Gynhesrwydd Fforddiadwy.

Cynhelir lansiad ar ddydd Llun, 12 Tachwedd yn Neuadd y Pentref, Llwyncelyn, o 12:30yp ymlaen. Bydd hyn yn gyfle i drigolion, sydd efallai yn ei weld yn anodd i dwymo eu cartrefi, i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael drwy’r cynllun.

Yn y digwyddiad, bydd cynrychiolwyr o Gyngor ar Bopeth Ceredigion, Porth y Gymuned, Age Cymru, Y Groes Goch Brydeinig a Nest. Bydd y cynrychiolwyr ar gael i ddarparu gwybodaeth ar beth sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol i drigolion o fewn Ceredigion.

Bydd cronfa Cymorth Cartrefi Cynnes yn rhedeg dros gyfnod o dair blynedd, gyda’r nod o gynorthwyo dros 600 o gartrefi bregus i sicrhau y gall pawb fwynhau’r cysur o gartref diogel, sych a chynnes.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ynghyd â Thai, “Unwaith eto, mai Adran Tai Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cymorth ar gyfer atal tlodi ynni. Diolch i Gaynor, Alwen a’r Tîm am eu gwaith diflino i sicrhau'r cymorth yma. Fe fydd y gronfa o fudd i dros 600 o drigolion Ceredigion. Mae'r lansiad yn gyfle i unrhyw un weld pa gymorth sydd ar gael.”

Mae croeso i bawb fynychu’r digwyddiad yn Neuadd y Pentref, Llwyncelyn, ar ddydd Llun, 12 Tachwedd o 12:30yp ymlaen. Mae angen cofrestru diddordeb i fynychu cyn y digwyddiad cyn y diwrnod y medrir gwneud trwy fewngofnodi i Eventbrite: https://www.eventbrite.co.uk/e/warm-homes-ceredigion-launch-event-tickets-51752622487?utm_term=eventurl_text. Darperir cinio bwffe.

Am ragor o wybodaeth ar Gymorth Cartrefi Cynnes, cysylltwch â Thîm Lles y Gymuned ar 01545 572 105.

05/11/2018