Cymraeg bydd cyfrwng addysgu yng nghyfnod sylfaen Ysgol Bro Pedr o fis Medi 2019 ymlaen. Mae’r datblygiad yn dilyn cymeradwyaeth o’r cynllun gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion.

Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cynnig i newid y cyfrwng iaith mewn cyfnod o hysbysiad statudol. Cynhaliwyd y cyfnod rhwng 4 Chwefror a 3 Mawrth 2019.

Mae'r newid cyfrwng yn cefnogi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Ceredigion 2017 – 2020 trwy sicrhau bod mwy o blant saith oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Mae’n braf ein bod wedi gallu gwneud y penderfyniad yma ar ôl derbyn dim gwrthwynebiad i’r cynnig. Mae hyn yn gam positif a phwysig yn hybu addysg a defnydd o’r Gymraeg yng Ngheredigion.”

Cefnoga’r newid cyfrwng Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 trwy gyfrannu at hyrwyddo a gwarchod diwylliant a threftadaeth Cymru a'r iaith Gymraeg.

Mae'r cynnig hefyd yn cefnogi nod y cyngor drwy ymrwymo i gefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i weld miliwn o bobl yn defnyddio'r Gymraeg erbyn 2050.

10/04/2019