Bydd hysbysiadau’n cael eu cyhoeddi ar y cynnig i agor ysgol ardal newydd yn Nyffryn Aeron newydd ar safle newydd, a hefyd i gloi ysgolion cynradd Felinfach, Ciliau Parc a Dihewyd. Mae cyhoeddi hysbysiad statudol yn rhoi cyfle i bobl wrthwynebu i’r cynnig.

Daw’r datblygiad wedi i Gabinet Cyngor Sir Ceredigion gymeradwyo'r argymhelliad i gyhoeddi'r hysbysiadau.

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Dysgu. Dywedodd, “Bydd cyhoeddi’r hysbysiadau yn ein helpu i fwrw ymlaen â’n cynllun i agor ysgol newydd sbon yn Nyffryn Aeron. Mae’n gyfle i ni gael isadeiledd ac offer newydd sbon er lles addysg plant yn Nyffryn Aeron.

Os oes gan bobl bryderon am y cynllun, gallant wrthwynebu’r hysbysiadau a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.”

Bydd y penderfyniad terfynol ar agor yr ysgol ardal newydd a chau'r tair ysgol bresennol yn cael ei gymryd mewn cyfarfod Cyngor llawn ym mis Rhagfyr 2019.

Caiff yr hysbysiadau eu cyhoeddi ar 16 Medi a byddant yn dod i ben ar 13 Hydref.

09/09/2019