Ar 18 Tachwedd 2020, roedd yn ofynnol i ddau fusnes yn Aberteifi wella eu mesurau i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafeirws ar eu safle.
Cafodd Cigyddion T Samways, Pendre, Aberteifi a Cardigan Fried Chicken, Pendre, Aberteifi hysbysiad gwella ddydd Mercher 18 Tachwedd 2020 ar ôl i swyddogion o Dîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion ymweld â'r safle.
Yn dilyn adroddiadau gan aelodau o'r cyhoedd, canfu swyddogion fod angen gwelliannau yn y ddwy safle er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau. Mae'r gwelliannau'n ei gwneud yn ofynnol i bobl sy'n gyfrifol am y safle sicrhau bod y staff yn gwisgo gorchuddion wyneb ym mhrif ran y siop a/neu fannau cyhoeddus y fangre er mwyn cynnal hylendid.
Rhoddwyd 48 awr i'r busnesau hyn gywiro'r materion a amlygwyd neu y byddai camau gorfodi pellach yn cael eu hystyried, gan gynnwys yr opsiwn i gyflwyno hysbysiadau cau.
Ar 20 Tachwedd 2020, dychwelodd Swyddogion i Gigyddion T Samways a Cardigan Fried Chicken Aberteifi ac roeddent yn fodlon bod y mesurau rhesymol bellach ar waith a bod yr Hysbysiadau Gwella wedi'u terfynu wedyn.
Cyhoeddwyd yr Hysbysiadau Gwella Mangreoedd, a gyflwynwyd o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020, yn y ddau safle ddydd Mercher 18 Tachwedd 2020.
25/11/2020