Yn y Gwobrwyau Hyfforddi DU 2018 ar ddydd Iau, 29 Tachwedd, cafodd Hyfforddwr Pêl-fasged o Geredigion, Lee Coulson ei wobrwyo yn Hyfforddwr Cymuned DU y Flwyddyn ar gyfer 2018.

Mae’r gwobrwyau yn anrhydeddu hyfforddi da, o bobl a sefydliadau sy’n dangos y rôl mae hyfforddi yn chwarae mewn trawsnewid bywydau ac i ysbrydoli cenedl lesol.

Cafodd Lee ei wobrwyo hefyd â’r Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn rhestr yr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2018 am ei ymroddiad pwysig i chwaraeon anabledd. Fel prif hyfforddwr o Glwb Pêl -fasged Aberystwyth, helpodd i sefydlu’r clwb fel un o’r clybiau chwaraeon mwyaf cynhwysol yng Nghymru. Blwyddyn ddiwethaf, cyflawnodd y clwb Achrediad Clwb Aur insport am eu hymroddiad i gynhwysedd, i fod y trydydd clwb yng Nghymru i ennill y safon uchel yma.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethu Dysgu, “Ar ran Cyngor Sir Ceredigion, hoffwn longyfarch Lee am gyflawni’r acolâd hollol deilwng yma. Mae ei ymroddiad mewn darparu gweithgareddau chwaraeon cynhwysol yn helpu sicrhau bod gan Geredigion cyfleoedd i bawb i gadw’n ffit ac yn iach.”

Mae Lee yn darparu cyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau wythnosol i Ceredigion Actif, yn cynnwys IZB, aml-chwaraeon, pêl -fasged cadair olwyn a rhaglen arweinyddiaeth gynhwysol, gan sicrhau bod pob disgybl yn cael eu cynnwys ac yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol.

Dywedodd Gemma Cutter, Swyddog Datblygiad i Chwaraeon Anabledd Cymru a Ceredigion Actif, “Rydym yn falch iawn o gyflawniadau Lee, mae’n darparu sesiynau cynhwysol ffantastig ac mae e’n sicrhau bod pob person yn cael profiad cadarnhaol ac ystyrlon o weithgaredd chwaraeon a llesol.”

Hefyd, Lee yw’r hyfforddwr Tîm Pêl-fasged Cadair Olwyn Cymru o dan 15 a hyfforddwr llwybr perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru. Mae e wedi defnyddio ei ddylanwad, arbenigedd, dull cadarnhaol a greddf arloesol i gyflwyno mentrau newydd megis pêl-fasged cerdded i’r sir. Anelwyd y ffurf fwyaf newydd yma o’r gêm i bobl dros eu 50 oed sydd ag anafiadau sy’n eu hatal i chwarae’r gêm redeg; mae’r chwaraeon yma nawr yn ffynnu yn y sir, gyda’r trydydd clwb yn cael ei ffurfio eleni.

Am fwy o wybodaeth ar Ceredigion Actif neu Chwaraeon Anabledd Cymru ymwelwch â www.ceredigionactif.org.uk

 

07/12/2018