Cynhaliwyd Hyfforddiant Tylino Babanod yng Nghanolfan Integredig i Bant Bach Enfys Teifi, Aberteifi yn ddiweddar.

Hyfforddwyd y grŵp gan Peter Walker. Mae Peter yn athro sydd wedi hyfforddi staff dros Geredigion dros y 10 mlynedd ddiwethaf. Mae Peter yn teithio dros y byd i ddysgu a hyfforddi ac wedi cyhoeddi sawl llyfr ar y pwnc.

Roedd cynrychiolwyr o holl Ganolfannau Teulu Ceredigion yn bresennol ar gyfer yr Hyfforddiant. Canolfannau Teulu Borth, Penparcau, Tregaron, Llambed, Llandysul a Chanolfan i Blant Jigso yn Aberteifi. Hefyd yn bresennol oedd staff o Homestart Ceredigion, a Dechrau'n Deg Ceredigion a Sir Benfro.

Mae’r holl gynrychiolwyr yn edrych ymlaen at ddarparu'r gwasanaeth yma i deuluoedd dros Geredigion dros y blynyddoedd nesaf. Cadwch olwg allan am fwy o wybodaeth.

31/10/2018