Cynhelir hyfforddiant am ddim i feicwyr modur yng Ngorsaf Tân Aberystwyth ar 13 Rhagfyr o 6:30yh hyd 9:30yh.

Mae’r cwrs Biker Down yn helpu beicwyr modur i ddysgu sgiliau a fyddai o ddefnydd os y byddant y cyntaf i gyrraedd damwain ffordd sy'n ymwneud â beiciwr arall. Mae’r cwrs yn defnyddio arbenigrwydd y Gwasanaethau Brys a Swyddogion Diogelwch ar y Ffyrdd i baratoi beicwyr modur os bydd y gwaethaf y digwydd ar y ffyrdd.

Gan fod beicwyr modur yn dueddol o yrru mewn pâr neu grwpiau, pan fydd un wedi cael damwain, fel arfer beiciwr modur arall fydd y cyntaf yno. Gall y camau sy’n cael eu cymryd yn yr eiliadau sy’n dilyn damwain fod yn hanfodol mewn lleihau anafiadau. Gall wneud gwahaniaeth mawr i fywydau y rheiny sy’n rhan o’r ddamwain.

Efallai bod peth ansicrwydd o ran beth i’w wneud mewn sefyllfaoedd fel hyn. Mae Biker Down yn cael ei redeg gan feicwyr i feicwyr, wedi’i chynllunio i ateb yr ansicrwydd yma. Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu gan Nigel Bowden o’r Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Ken Huntley, sy’n Hyfforddwr Gyrru Safon Uwch ac yn hyfforddwr Cynllun Gwella Beicwyr. Mae’r cwrs wedi’i threfnu gan Dîm Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Sir Ceredigion.

Mae’r cwrs yn cynnwys tri modiwl sef Rheoli Lleoliad Damwain, Cymorth Cyntaf a’r Wyddoniaeth o Gael eich Gweld.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Edwards, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, “Er bod beicwyr modur yn cyfrif am ganran fechan o draffig yng Nghymru, mae ystadegau'n anffodus yn dangos eu bod nhw'n cynrychioli cyfran llawer uwch o anafiadau a laddwyd neu a anafwyd yn ddifrifol. Mae bod yn barod ar gyfer pob posibilrwydd yn hanfodol fel beiciwr modur. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i bobl ddysgu'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen, pe baent y cyntaf i gyrraedd damwain.”

Diolch i Grant Diogelwch Ffyrdd gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwrs yn cael ei redeg am ddim. Ar ôl cwblhau’r cwrs, fe fydd mynychwyr yn derbyn pecyn cymorth cyntaf am ddim.

I archebu lle ar y cwrs Biker Down, ffoniwch 01545 570881, neu defnyddiwch y ffurflen cyswllt ar-lein ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

22/11/2018