Mae Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi lansio Hwyl yr Haf 2018 sef canllaw llawn gweithgareddau Cymraeg a dwyieithog i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng ngogledd Ceredigion, yn dilyn llwyddiant prosiect peilot Hwyl yr Haf yn ystod gwyliau haf 2017.

Mae rhaglen eleni yn cynnwys hyd yn oed mwy o weithgareddau a phump o bartneriaid newydd sef Canolfan y Celfyddydau, Gigs Cantre’r Gwaelod, Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion a Hyfforddiant Ceredigion.

Cafodd y syniad o greu rhaglen o weithgareddau Cymraeg dros wyliau’r haf ei drafod gyntaf yn un o gyfarfodydd Pwerdy Iaith Aberystwyth sef cynllun Cered i asesu sefyllfa’r Gymraeg yn ardal Aberystwyth. Teimlad criw’r Pwerdy Iaith oedd fod angen tynnu sefydliadau Cymraeg niferus y dref at ei gilydd er mwyn creu rhaglen o weithgareddau Cymraeg o safon uchel a fyddai’n denu sylw rhieni o bob cefndir ieithyddol.

Dywed Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered, “Cafwyd adborth gadarnhaol am raglen 2017 ac roedd yn amlwg fod yna alw ymysg rhieni Cymraeg a di-Gymraeg am rhyw fath o amserlen o bethau iddyn nhw wneud gyda’u plant dros wyliau’r haf – a hynny yn Gymraeg wrth gwrs!”

Mae Hwyl yr Haf 2018 yn cynnwys pob math o weithgareddau at ystod o oedrannau a diddordebau. Ymysg y gweithgareddau eleni mae yna wersylloedd chwaraeon gan gynnwys beicio mynydd, celf a chrefft, gigs, beicio mynydd, diwrnod blasu sgiliau adeiladu, drama, sioeau pypedau a llawer iawn mwy!

Ychwanegodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet â cyfrifoldeb am Wasanaethau Plant a Diwylliant, “Braf iawn yw gweld pump sefydliad arall yn ymuno gyda’r cynllun eleni er mwyn cyfoethogi’r hyn sydd ar gael yn Gymraeg neu’n ddwyieithog i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng ngogledd y sir i’w fwynhau.”

Er mwyn darganfod rhaglen Hwyl yr Haf, ewch i wefan www.cered.cymru, Facebook @menteriaithcered, Twitter @MICered neu Instagram @menteriaithceredigion.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered ar 01545 572 350 neu steffan.rees@ceredigion.gov.uk

 

12/07/2018