Cafodd rhaglen Hwyl yr Haf 2019 Cered ei lansio ar 5 Gorffennaf yng Ngŵyl Aber. Y rhaglen yma yw’r canllaw hanfodol i rieni sydd yn edrych am weithgareddau Cymraeg a dwyieithog i’w plant yng Ngheredigion dros y gwyliau haf.

Mae Cered wedi bod yn creu rhaglenni Hwyl yr Haf ers 2017 er mwyn cydlynu gweithgareddau Cymraeg yn ystod y gwyliau haf yn ardal Aberystwyth a chodi ymwybyddiaeth rhieni o’r doreth o weithgareddau Cymraeg sydd i’w gael ar y stepen drws. Eleni am y tro cyntaf fe fydd Hwyl yr Haf yn cynnwys rhai partneriaid yn ne Ceredigion er mwyn sicrhau fod gweithgareddau Hwyl yr Haf yn hygyrch i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws y sir.

Ceir nifer o weithgareddau newydd cyffrous yn Hwyl yr Haf 2019 gan gynnwys planetariwm Amgueddfa Ceredigion a Diwrnodau Gweithgareddau Gwersyll yr Urdd Llangrannog. Yn ogystal â hyn ceir gweithdai celf, cerddoriaeth, drama a dawns; Cyfres P’nawn Sul Gigs Cantre’r Gwaelod; sesiynau beicio mynydd a llawer iawn mwy.

Non Davies yw Rheolwr Cered. Dywedodd, “Fe wnaeth dros ddeg mil o bobl edrych ar raglen Hwyl yr Haf 2018 gyda nifer fawr o’r gweithgareddau wedi gwerthu allan. Gyda sefydliadau newydd megis Castell Aberteifi, Gwersyll yr Urdd Llangrannog a Llyfrgell Llandysul yn ymuno yn yr arlwy eleni, y gobaith yw y bydd mwy fyth o deuluoedd Ceredigion yn mwynhau gweithgareddau Cymraeg o bob math dros y gwyliau haf.”

Gellir dod o hyd i weithgareddau Hwyl yr Haf trwy chwilio am Cered ar Facebook, Twitter ac Instagram neu drwy fynd i www.cered.cymru/hwyl-yr-haf-19.

16/07/2019