Yn ystod gwyliau’r Pasg (9/4/22-25/4/22), bydd Llyfrgell Ceredigion, Cered Menter Iaith Ceredigion a Cardi Iaith yn trefnu Helfa Straeon cyffrous o amgylch tref Llanbedr Pont Steffan.

Am gyfle i ennill y brif wobr sef Kindle Fire 7, fe fydd angen i’r cystadleuwyr fynd o amgylch siopau’r dref i ddarganfod llyfrau yn eu ffenestri. Mae’r helfa drysor yn addas ar gyfer plant hyd at 14 oed ac mae am ddim i gystadlu.

Bydd angen casglu’r daflen o’r llyfrgell cyn dechrau.

Diolch i’r busnesau yn y dref am eu parodrwydd i gymryd rhan yn yr helfa a phob lwc!

 

05/04/2022