MAE dros £16,000 wedi cael ei rannu ymhlith pobl yr effeithiodd llifogydd mis Hydref diwethaf arnynt, diolch i haelioni cymunedau Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Lansiwyd Apêl Cymorth Llifogydd Llandysul a Phont-tyweli gan wirfoddolwyr ym mis Tachwedd i godi arian a chasglu rhoddion i gynorthwyo'r rheiny a wynebai'r dasg o atgyweirio, ailadeiladu ac adnewyddu eu tai a'u busnesau yn dilyn y distryw a achoswyd gan Storm Callum – sef y llifogydd gwaethaf i daro'r ardal mewn mwy na 30 mlynedd.

Aeth Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Sir Ceredigion ati i gasglu rhoddion gan bobl a gynhaliodd ddigwyddiadau codi arian, a ysgrifennodd sieciau neu a gyfrannodd i'r gronfa ar-lein.

Casglwyd cyfanswm o £16,144.42 sydd bellach yn cael ei rannu'n gyfartal ymhlith y 44 o bobl a ddaeth ymlaen i gael cymorth.

Cymaint oedd cryfder y gefnogaeth gan y gymuned fel y penderfynodd rhai o'r rheiny yr effeithiodd y llifogydd arnynt, ac a oedd yn gymwys i gael cymorth gan y gronfa, wrthod y cymorth gan ddweud eu bod yn teimlo bod mwy o'i angen ar bobl eraill.

Roedd y rheiny y cynigiwyd cymorth iddynt yn cynnwys cartrefi, mentrau cymunedol a busnesau yn ardal y llifogydd, o Abercerdin i Bont Llandysul; Wills Cleaning Services i Bont Llandysul; Swain Commercials ar ffordd Pencader i Bont Llandysul, a nifer fach o eiddo i fyny'r afon ar ochr Sir Gaerfyrddin.

Mae gweinyddwyr y gronfa - y Cynghorydd Keith Evans, y Cynghorydd Linda Evans, y Cynghorydd Ken Howells, Meinir Davies, Robert Jenkins a'r Parch Gareth Reid – wedi diolch i bobl am eu haelioni caredig, ac i'r busnesau a'r awdurdodau lleol am eu cymorth.

Bydd pob ceiniog a godwyd yn cael ei dosbarthu, heb fod unrhyw ffioedd gweinyddol yn cael eu didynnu.

16/04/2019