Hyrwyddwyd cyfleoedd gyrfaol a phrentisiaethau gyda'r Cyngor yn yr Ŵyl Gyrfaoedd a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 19 Chwefror. Bu dros fil o ddisgyblion o’r ysgolion uwchradd ar draws Ceredigion yn y digwyddiad a drefnwyd gan Gyrfaoedd Cymru.

Defnyddiodd y Tîm Dysgu a Datblygu penset realiti rhithiol i ddangos ystod o ddewisiadau gyrfaol a gynigir gan y Cyngor. Ysgogodd hyn lawer o ddiddordeb ymhlith y bobl ifanc a'u rhieni a ymwelodd â'r stondin rhyngweithiol.

Cyn y digwyddiad, dosbarthwyd 1,000 o docynnau aur i ysgolion ledled Ceredigion. Ymwelodd disgyblion â stondin gyrfaoedd y Cyngor er mwyn cyflwyno eu tocynnau i’r gystadleuaeth. Hoffai'r tîm ddiolch i ‘Insight’ a roddodd y wobr fuddugol, sef iPad Air.

Dywedodd Debbie Ayriss, Rheolwr Dysgu a Datblygu’r Cyngor, "Roedd ymateb disgyblion a rhieni yn wych ac wedi rhoi’r cyfle i siarad â phobl ifanc am brentisiaethau a chyfleoedd gyrfaol yng Nghyngor Sir Ceredigion".

Bydd y Tîm Dysgu a Datblygu yn dechrau eu hymgyrch recriwtio nesaf ar gyfer prentisiaethau ar 15 Gorffennaf 2019. Maent yn gobeithio y bydd lawer o bobl gyda diddordeb i wneud cais.

Dywedodd Cynghorydd Ray Quant, aelod Cabinet dros Dysgu a Datblygu, “Mae’n wych gweld bod cyfleoedd gyrfaol o fewn y cyngor wedi cael eu hyrwyddo yn y digwyddiad hwn, trwy ddefnyddio syniad arloesol fel y penset realiti rhithiol sy’n arddangos yr ystod o gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael yn y cyngor”.

Am ragor o wybodaeth am brentisiaethau yng Nghyngor Sir Ceredigion, anfonwch neges e-bost at: prentis@ceredigion.gov.uk, cysylltwch a’r ganolfan neu ewch i'r gwefan: gyrfa.ceredigion.gov.uk.

13/03/2019