Cynhelir etholiadau Senedd Ewrop ar 23 Mai 2019. Mae Prydain wedi'i hamserlennu nawr i gymryd rhan.
Mae gan breswylwyr hyd at 5yp, ddydd Mawrth, 7 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr. Bydd cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon yn fuan at bob etholwr cymwys, yn darparu gwybodaeth am eich gorsaf bleidleisio ddynodedig, ynghyd â manylion am sut y gallwch bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy os na allwch bleidleisio’n bersonol ar y diwrnod.
Gall preswylwyr wneud cais am bleidlais drwy'r post neu drwy ddirprwy hyd nes 5yp ddydd Mercher, 08 Mai 2019. Gellir cael ffurflenni cais Pleidlais Bost o https://www.gov.uk/government/publications/apply-for-a-postal-vote, gellir cael ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy o https://www.gov.uk/apply-vote-proxy. Fel arall, gallwch gysylltu â swyddfa'r Gwasanaethau Etholiadol ar 01545 572032 neu e-bostiwch gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.
Os ydych chi’n ddinesydd un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU mewn etholiad Senedd Ewrop. Os ydych chi’n ddinesydd cymwys yr UE sy'n byw yng Ngheredigion, byddwch yn derbyn llythyr gennym yn fuan, yn eich gwahodd i gofrestru ar gyfer yr Etholiadau Ewropeaidd o'ch cyfeiriad yng Ngheredigion. Rhaid llenwi'r ffurflen (UC1) a'i chyflwyno erbyn dydd Mawrth 07 Mai 2019 gan ddefnyddio'r amlen ragdaledig a ddarperir neu drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.
Os ydych chi’n dymuno pleidleisio o'ch mamwlad, efallai yr hoffech gysylltu â'ch Llysgenhadaeth berthnasol, a allai eich cynghori ar sut i gofrestru a bwrw’ch pleidlais. Cliciwch ar y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am lysgenadaethau tramor yn y DU: https://www.gov.uk/government/publications/foreign-embassies-in-the-uk
Am ragor o wybodaeth am Etholiadau Senedd Ewrop, ewch i https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/etholiadau-a-chofrestru-etholiadol/etholiad-seneddol-ewropeaidd-23-mai-2019/
Mae’r amserlen canlynol yn cynnwys dyddiadau cau ar gyfer yr Etholiadau Senedd Ewrop:
Digwyddiad |
Dyddiad Cau |
Amser |
---|---|---|
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru |
Dydd Mawrth, 07 Mai 2019 |
Hanner nos |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni UC1 - Os ydych chi’n ddinesydd o un o wledydd yr UE, gallwch gofrestru i bleidleisio yn y DU mewn etholiad Senedd Ewrop |
Dydd Mawrth, 07 Mai 2019 |
Hanner nos |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn: - ceisiadau newydd am bleidlais drwy’r post; - ceisiadau newydd am bleidlais bost drwy ddirprwy; - newidiadau i bleidleisiau drwy’r post a phleidleisiau drwy ddirprwy sydd ar waith eisoes |
Dydd Mercher, 08 Mai 2019 |
5pm |
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (nid pleidlais bost drwy ddirprwy neu bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng) |
Dydd Mercher, 15 Mai 2019 |
5pm |
Diwrnod yr Etholiad |
Dydd Iau, 23 Mai 2019 |
7am-10pm |
25/04/2019