Gwobrwywyd y Siarter Iaith Aur i Gyngor Chwaraeon Ceredigion (CChC) am ddefnydd busnes dyddiol a datblygu cymunedau yng Ngheredigion.

Nod y Siarter yw codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg a dwyieithog sy’n cael eu darparu ar draws y sir. Gwobrwyir y Wobr Aur pan mae sefydliad neu fusnes yn darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog; bod pobl gyswllt gyda’r cyhoedd yn ddwyieithog a pan mae’r sefydliad neu fusnes yn hyrwyddo ei wasanaethau dwyieithog. Cafodd y wobr ei gyflwyno yn Siambr y Cyngor ym Mhenmorfa, Aberaeron ar 12 Ebrill 2018.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, yr aelod Cabinet dros Ddatblygu Economaidd a Datblygu Cymunedol, a Chadeirydd CChC, “Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion wedi bod yn gweithio yn galed i ddatblygu talent chwaraeon a chyfleoedd yn y sir. Wrth wneud hynny mewn ardal Gymreig, mae’n hanfodol bod y Cyngor Chwaraeon yn gwneud hynny yn effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r wobr yn cydnabod yr ymdrech sydd wedi ei wneud i gyflawni hynny.”

Mae Cyngor Chwaraeon Ceredigion yn anelu at gynrychioli buddiannau clybiau chwaraeon yng Ngheredigion. Mae'r sefydliad yn ymbarél ar gyfer clybiau chwaraeon cysylltiedig, cynghreiriau a sefydliadau cymunedol cysylltiedig.

I ddysgu mwy am sut gall eich sefydliad neu fusnes chi geisio am Wobr Siarter Iaith, cysylltwch â Cered, Menter Iaith Ceredigion ar cered@ceredigion.gov.uk neu 01545 572 350.

23/04/2018