Cafodd adeiladwyr a datblygwyr yng Ngheredigion eu cydnabod yn ddiweddar am eu hymrwymiad i waith adeiladu o ansawdd o fewn y sir.

Enwebwyd yr unigolion/cwmnïau yma gan Wasanaeth Rheoli Adeiladu Cyngor Sir Ceredigion. Mae’r Gwasanaeth Rheoli Adeiladu’n gyfrifol am oruchwylio dros £50 miliwn y flwyddyn o waith adeiladu ledled Ceredigion. Cafodd enwebiadau a gasglwyd ar hyd y flwyddyn eu cyflwyno i’r broses beirniadu a chytunwyd ar enillwyr amrywiaeth o brosiectau.

Er mwyn derbyn cydnabyddiaeth roedd yn rhaid i bob prosiect ddangos crefftwaith o ansawdd uchel iawn, cysylltiad agos â’r datblygwyr a’r Syrfëwr Rheoli Adeiladu o ran y broses archwilio’r safle a chydymffurfio â Rheoliadau Adeiladu yn ogystal â boddhad cwsmer.

Enillwyr Ceredigion oedd:
• Carreg Construction Ltd am yr Estyniad neu Waith Addasu Gorau i Eiddo Cyfredol yn Alma Grange, Llangoedmor.
• Griffiths Joinery, Gwel Ystwyth, Rhydyfelin yn y categori Crefftwr Lleol Gorau.
• Emyr Davies am y Newid Defnydd neu Drawsnewid Gorau, Edleston House, Queens Road, Aberystwyth.
• Lee Jenkins am y Cartref Unigol Gorau yn Koti, Cliff Road, Borth.
• Andrew Scott Ltd am yr Adeilad Addysg Gorau, Ysgol Dyffryn Cledlyn.

Aeth enillwyr Ceredigion ymlaen i noson ‘Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’ Llywodraeth Leol yn Ne Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Vale yn Hensol, ar 27 Ebrill. Cyflwynwyd y noson gan Mr Roy Noble OBE, cymeriad amlwg iawn ar y teledu a radio. Roedd dros 450 o bobl broffesiynol o’r byd adeiladu yn Ne Cymru’n bresennol.

Enillodd Griffiths Joinery y categori am y crefftwr lleol gorau a enillodd Emyr Davies ei gategori am ei waith am y Newid Defnydd neu Drawsnewid Gorau yn Edleston House.

Dywedodd Alan Davies, Rheolwr Datblygu Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’r rheoliadau Adeiladu bellach yn rhan fwy sylweddol o fywydau pobl nag o’r blaen, gyda materion fel arbed ynni a chynaladwyedd ar y brig. Canmolwyd yr adeiladwyr a datblygwyr am eu hymrwymiad i adeiladu o ansawdd ar draws y sir.

Bydd sicrhau y caiff adeiladau eu hadeiladu yn unol â gofynion statudol yn ogystal â sicrhau y bydd systemau prawf wedi eu cwblhau ar adeiladau a gwblhawyd yn gofyn am grefftwaith o’r radd flaenaf. Bydd hyn yn sicrhau bod adeiladau yn cyflawni’r ymrwymiad i gynaladwyedd a gostwng gollyngiadau carbon”.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi ac Adfywio, “Bydd gan ddatblygiad o unrhyw faint effaith fawr ar fywyd bob dydd y rheiny sy’n ymgymryd â phrosiectau adeiladu. Ar ddiwedd y dydd, yr adeiladwr sy’n gyfrifol am fodloni anghenion y cwsmer a chyrff statudol. Bydd ‘Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’ yn cynorthwyo’r adeiladwr a’r datblygwr i gyflawni’r anghenion yma yn ogystal â rhoi cydnabyddiaeth iddynt am ymgymryd â gwaith o’r safon uchaf yn gyson.

Mae’r Cyngor wedi cael pleser mawr wrth gydnabod adeiladwyr a datblygwyr sy’n benderfynol o ddarparu gwasanaeth cwsmer o ansawdd da, ac mae eu llwyddiant yn brawf i’r proffesiynoldeb a’r arbenigedd sydd yng Ngheredigion. Mae’n hanfodol fod yr adeiladwyr a’r datblygwyr da yma’n cael eu canmol a’u cydnabod yn gyhoeddus, ac y mae ‘Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’ yn brawf fod prosiectau adeiladu o ansawdd uchel yng Ngheredigion. Bob blwyddyn mae’r enwebiadau o ansawdd eithriadol ac y mae gan feirniaid amser anodd iawn wrth geisio dewis yr enillwyr”.

Y cam nesaf fydd mynd ymlaen i’r lefel genedlaethol, pan gaiff enillwyr Cymru Gyfan eu dewis yng Nghaerdydd. Bydd y rhai buddugol o’r digwyddiad yma yn cael eu henwebu i ‘Wobrau Rhagoriaeth Adeiladu’ ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan.

 

03/07/2018