Gyda dwy ystafell syfrdanol i gynnal eich seremoni, bar â thrwydded lawn a digon o ddewisiadau ar gyfer y wledd briodas, Amgueddfa Ceredigion yw'r lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig. O hyn ymlaen, mae gan Amgueddfa Ceredigion drwydded swyddogol i gynnal priodasau ac maent yn barod i groesawu cyplau sy'n chwilio am awyrgylch rhamantaidd mewn lleoliad anarferol.

Mae'r Amgueddfa, sydd wedi’i lleoli mewn theatr Edwardaidd gradd II, yn adleisio hud a chrandrwydd y gorffennol. Mae’r balconïau euraid a’r decor coch moethus yn gefndir perffaith i ddiwrnod arbennig, boed hynny ar gyfer seremoni draddodiadol, anghonfensiynol neu ychydig yn anarferol.

Dywedodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion, "Mae Amgueddfa Ceredigion yn lle rhamantus iawn. Mae cyplau hŷn yn dod i mewn yn aml ac yn sôn am yr amser pan roedd y lle yn dal i fod yn sinema. Roedd seddi dwbl yng nghefn yr awditoriwm – does wybod faint o sylw a roddwyd i’r ffilmiau! Hynod gyffrous yw’r posibilrwydd y bydd ymwelwyr yn gallu dod i mewn a rhannu atgofion o’u priodas gyda ni yn y dyfodol."

Yn 2017, cafodd yr Amgueddfa ei hadnewyddu i gynnwys arlwyaeth, bar trwyddedig a chyfleusterau clyweledol, felly mae ystod o wahanol opsiynau ar gael ar gyfer priodasau – ar gyfer y seremoni’n unig, neu’r dathliad cyfan gydag arlwyaeth ar gyfer hyd at 100 o westeion. Ar gyfer seremonïau mwy personol, mae oriel lai ar gael sy’n edrych dros y môr. Mae'r amgueddfa dafliad carreg o’r promenâd lle gall cyplau dynnu lluniau â’u gwesteion, os yw’r tywydd yn caniatáu.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, "Mae Amgueddfa Ceredigion yn lleoliad bendigedig, ac yn lle delfrydol i greu atgofion melys o'ch diwrnod mawr. Mae’r pecynnau priodas sydd ar gael yn hyblyg iawn, ac mae staff cyfeillgar wrth law a fydd yn sicrhau bod diwrnod eich priodas yn un hollol unigryw. Byddwch yn gallu rhannu eich diwrnod arbennig gyda’ch teulu a’ch ffrindiau mewn lleoliad hardd sy’n llawn o hanes Ceredigion."

Agorwyd y Colisëwm gyntaf yn 1905 fel theatr, ac ers hynny mae fwy na pum mil o ddigwyddiadau wedi’u cynnal yno, gan gynnwys neuadd gerdd Edwardaidd, dramâu, ffilmiau cynnar, cyfarfodydd gwleidyddol a chyngherddau. Ar ôl troi’n sinema yn 1932, mae 3800 o ffilmiau wedi’u dangos yno. Heddiw, mae tri llawr yr Amgueddfa yn gartref i gasgliad o gelf a gwrthrychau sy’n gysylltiedig â threftadaeth ddiwylliannol y sir.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â phriodasau yn Amgueddfa Ceredigion, ewch i’r wefan ar: http://www.ceredigionmuseum.wales/darganfod/priodasau/

 

15/03/2019