Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i fusnes lletygarwch ym Mhontarfynach wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd yn rhan o reoliadau’r coronafeirws.

Mae Hysbysiad Gwella Mangre wedi cael ei gyflwyno i Yr Hafod, Pontarfynach, Aberystwyth gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Yn rhan o’r Hysbysiad Gwella Mangre, mae’n rhaid sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng pobl yn y fangre, a rhoi mesurau ar waith sy'n cyfyngu ar ryngweithio wyneb yn wyneb agos a chynnal hylendid.

Bydd yn rhaid i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno erbyn 17:00 ar 27 Tachwedd 2020. Gellir dod o hyd i’r hysbysiad llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, o dan Hysbysiadau Gwelliant a Chau.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor o dan Cefnogi Economi Ceredigion.

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

26/11/2020