Mae gofyniad wedi cael ei gyflwyno i fusnes cludfwyd yn Llambed wneud gwelliannau i ddiogelu iechyd a llesiant y cyhoedd yn rhan o reoliadau’r coronafeirws.

Mae Hysbysiad Gwella Mangre wedi cael ei gyflwyno i Oh My Cod, Llambed gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020.

Mae’r hysbysiad gwella yn ei gwneud yn ofynnol i'r fusnes ‘ddarparu neu sicrhau bod cyfarpar diogelu personol a gorchuddion wyneb yn cael eu defnyddio gan bob un sy’n gweithio yn y mangreoedd’ ac yn rhybuddio y gallai peidio â chydymffurfio â’r hysbysiadau arwain at gyflwyno hysbysiad cau mangre.

Bydd yn rhaid i’r mesurau hyn gael eu cyflwyno erbyn 10:00 ar 11 Rhagfyr 2020. Gellir dod o hyd i’r hysbysiad llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion, o dan Hysbysiadau Gwelliant a Chau.

Mae gwybodaeth i fusnesau ar gael ar wefan y Cyngor o dan Cefnogi Economi Ceredigion.

Anogir unrhyw fusnes nad yw’n sicr o'i gyfrifoldebau i edrych ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall unrhyw fusnes sydd angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad gysylltu â Thîm Trwyddedu'r Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.

09/12/2020