Ydych chi’n chwilio am rywle i fynd dros hanner tymor? Ysu am gael ychydig o awyr iach neu gyfle i fwynhau cerddoriaeth? Os felly, mynnwch gipolwg ar raglen Hwyl Dewi Cered am ddigonedd o syniadau lu.

Yn dilyn poblogrwydd rhaglenni Hwyl yr Haf yn ystod gwyliau haf 2017 a 2018 mae Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi lansio rhaglen newydd o’r enw Hwyl Dewi 2019 sef canllaw llawn gweithgareddau Cymraeg a dwyieithog i blant, pobl ifanc, teuluoedd ac oedolion dros wyliau hanner tymor Chwefror a phenwythnos Gŵyl Dewi.

Yn wahanol i’r rhaglenni Hwyl yr Haf sydd wedi canolbwyntio ar ardal Aberystwyth, fe fydd Hwyl Dewi 2019 yn ymestyn ar draws y sir er mwyn cynnwys dros 20 o weithgareddau o Dal-y-bont i Aberteifi ac o Lanbedr Pont Steffan i Langrannog.


Bydd y rhaglen yn cychwyn gyda gig ‘Parti Gŵyl Dewi Cynnar’ Sesiwn Nos Wener Tal-y-bont ar 22 Chwefror ac yn cloi ar ddydd Llun Mawrth 4 gyda gorymdeithiau Gŵyl Dewi Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan. Mae rhai o uchafbwyntiau eraill y rhaglen yn cynnwys Cân i Gymru 50, gig Band Pres Llareggub a Gwersyll Chwaraeon gyda’r Sgarlets a Chlwb Pêl Droed Dinas Abertawe.


Dywedodd Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered, “Roedd dros 13,000 o bobl wedi defnyddio ein rhaglen Hwyl yr Haf yn 2018 ac roedd llawer o’r gweithgareddau wedi gwerthu mas. Wrth i’n rhaglenni Hwyl ymestyn ar draws y sir gyfan am y tro cyntaf, y gobaith yw gallu denu pobl newydd yn ne’r sir at yr holl adloniant gwych sydd ar gael yma ar y stepen drws yng Ngheredigion. Braf iawn yw gweld sefydliadau newydd yn ymuno gyda’r cynllun am y tro cyntaf fel Sesiwn Nos Wener Talybont, Castell Aberteifi, Llyfrgell Llandysul a Gwersyll yr Urdd Llangrannog er mwyn cyfoethogi’r bwrlwm Cymraeg yn ein sir.”

Rhaglen ddigidol yw Hwyl Dewi ac fe fydd modd dod o hyd i’r holl weithgareddau ar wefan Cered sef www.cered.cymru neu trwy fynd i dudalennau Facebook, Twitter ac Instagram y fenter iaith. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Steffan Rees, Swyddog Datblygu Cymunedol Cered ar 01545 572 350 neu drwy e-bost: steffan.rees@ceredigion.gov.uk.

18/02/2019