Mae Gweithffyrdd+ yn cynnig hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith gyda thâl i bobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir er mwyn eu helpu ar y llwybr yn ôl i gyflogaeth. Fe wnaeth Amanda Needham, 57 elwa o’u cefnogaeth a dod o hyd i swydd mewn siop fferm a bistro Cymraeg a agorodd yn ddiweddar.

Wedi symud i’r ardal gyda’i gŵr yn ddiweddar, roedd gan Amanda brofiad blaenorol mewn swyddi manwerthu a rheoli, ac roedd yn edrych am rôl nad oedd yn ormod o straen gydag oriau a fyddai’n addas iddi hi. Heb wybod pa fath o waith oedd ar gael yn yr ardal, gofynnodd Amanda am gymorth a chyngor gan Gweithffyrdd+.

Cysylltodd Wendy Fitzpatrick, un o fentoriaid Gweithffyrdd+, gyda Fferm Bargoed, busnes teuluol yn Llwyncelyn, Ceredigion, a oedd yn dechrau sefydlu siop fferm a bistro, The Moody Cow. Archwiliodd am gyfleoedd gwaith ar y ffarm a fyddai’n addas i Amanda. Ar ôl cyfnod o wirfoddoli cychwynnol, ac ar ol iddi dderbyn hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, roedd y perchnogion yn hapus gyda cynnydd Amanda a dechrau ei chyflogi ar sail rhan amser. Nawr, mae Amanda yn gweithio yno’n llawn amser ac mae hi’n gweithio tuag at gymwysterau pellach mewn Hylendid Bwyd.

Dywedodd Amanda, “Roedd Tîm Gweithffyrdd+ yn grêt i weithio gydag ac roedd Wendy, fy mentor, yn gefnogol tu hwnt. Fe wnaeth hi weithio’n galed iawn i ddod o hyd i swydd a oedd yn addas i mi. Ystyriodd Wendy fy rolau, profiadau a sgiliau blaenorol a cymryd fy nodau am ba fath o waith roeddwn i’n edrych am mewn i ystyriaeth. Darparodd Wendy gefnogaeth ymarferol i’m helpu trwy ysgrifennu CV, llenwi’r cais swydd a’r boses gyfweld. Rwy’n hapus dros ben i fod yn rhan o’r fenter newydd yma a bod yn rhan o dîm y ‘Moody Cow’. Byddwn i’n argymell Gweithffyrdd+ i unrhyw un sy’n ceisio mynd nôl i mewn i gyflogaeth.”

Mae Gweithffyrdd+ hefyd yn cynnig mentora un i un, cefnogaeth i chwilio am swyddi a sgiliau cyfweliad, a'r cyfle i ennill cymwysterau newydd. Bydd y gefnogaeth yn targedu unigolion y mae ganddynt gyflyrau iechyd ac anableddau sy'n cyfyngu ar eu gwaith, yn ogystal â phobl â chyfrifoldebau gofal a phobl heb lawer o sgiliau neu ddim sgiliau o gwbl.

Meddai'r Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’n gadarnhaol clywed stori Amanda, sydd wedi elwa o Gweithffyrdd+ fel llawer o bobl eraill. Mae’r prosiect yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl dros 25 oed yng Ngheredigion i fynd yn ôl i weithio, derbyn cyfleoedd hyfforddiant neu wirfoddoli.”

Cefnogir Gweithffyrdd+ gan £17.3m o arian yr Undeb Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru. Arweinir y prosiect gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, ar y cyd â Chyngor Abertawe, Cyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion.

Os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch â Tîm Gweithffyrdd+, Cyngor Sir Ceredigion ar 01545 574193 neu workways@ceredigion.gov.uk

29/03/2018