Ar Ddydd Gwener, 28 Mehefin, dathlodd Gweithffyrdd+ Ddiwrnod Cyflogadwyedd cyntaf y DU drwy gynnal digwyddiad galw heibio yn Nhregaron. Roedd Gweithffyrdd+ wrth law i egluro sut y gallan nhw gynnig cymorth o safbwynt cyfleoedd am swyddi, hyfforddiant a chyflogadwyedd i unrhyw un sy’n 25 oed neu’n hŷn sy’n chwilio am waith.

Mae Gweithffyrdd+ Ceredigion yn cynnig hyfforddiant, cymwysterau, lleoliadau gwirfoddoli, profiad gwaith â thâl, a gwasanaeth mentora personol i gynorthwyo pobl i gael eu bywydau’n ôl ar y trywydd iawn.

Yn ddiweddar, cefnogodd Wendy Fitzpatrick, mentor gyda Gweithffyrdd+, Paul Crawshaw, 57 oed, i ddychwelyd i gyflogaeth. Erbyn hyn, mae Paul yn cael ei gyflogi gan Gyngor Sir Ceredigion fel Gweithredwr Tir.

Eglurodd Paul sut yr oedd Gweithffyrdd+ wedi ei gynorthwyo, “Nid oeddwn wedi gallu gweithio am sawl mis oherwydd materion iechyd ac roeddwn mewn gwirionedd wedi colli fy hyder. Helpodd Gweithffyrdd+ fi i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli a bu hyn o gymorth i fi adennill fy hyder. Gyda’r gefnogaeth iawn, daethant o hyd i swydd i fi gyda’r cyngor.”

Mae cefnogaeth ar gael i bobl yr effeithir arnyn nhw gan gyflyrau neu anableddau sy’n cyfyngu ar eu gwaith; Gofalwyr; y rhai nad oes ganddyn nhw gymwysterau neu gymwysterau isel yn unig; pobl â chyfrifoldebau gofal plant, pobl dros 54 oed; pobl mewn cartrefi lle bo un oedolyn yn unig yn byw neu bod pawb yn ddi-waith neu unrhyw un sy’n perthyn i’r grŵp pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig.

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, “Mae’n wych clywed sut mae Gweithffyrdd+ wedi cynorthwyo unigolion fel Paul i fynd nôl i weithio. Peidiwch â phoeni os na fuoch i’r sesiwn galw heibio y tro hwn gan y bydd Gweithffyrdd+ wrth law drwy gydol y flwyddyn. Gall Gweithffyrdd+ gynnig cefnogaeth fentora un i un wrth i chi chwilio am waith, cynnig cymorth gyda sgiliau cyfweliad a magu hyder. Cysylltwch â Gweithffyrdd+ i weld sut y gallant eich helpu chi.”

Gall tîm Gweithffyrdd+ Ceredigion hefyd gynorthwyo wrth lunio’r cais perffaith am swydd, gall dalu am gymwysterau a hyfforddiant ac, ar gyfer rhai cyfranogwyr, gall sicrhau swydd dros dro â thâl gyda chyflogwr lleol.

Prosiect cyflogadwyedd yw Gweithffyrdd+ a ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion.

I ddarganfod fwy o wybodaeth am Gweithffyrdd+, ewch i wefan www.workways.wales neu cysylltwch ag un o aelodau staff tîm Ceredigion ar 01545 574194 neu anfonwch e-bost at workways@ceredigion.gov.uk.

08/07/2019