Mae preswylwyr yng Ngheredigion, sef Neville Morgan Thomas, Ed Goodliffe ac Ian Townrow i gyd wedi elwa ar wasanaeth cymorth cyflogaeth a gwirfoddoli Gweithffyrdd+ drwy raglen allgymorth a gaiff ei rhedeg gan Kinora, canolfan adfer iechyd meddwl sydd wedi’i lleoli yn Aberteifi.

Mae Kinora’n cynnal nifer o raglenni allgymorth sy’n cynorthwyo i gefnogi adferiad iechyd meddwl. Mae Gweithffyrdd+ wedi bod yn rhan o un o’r rhaglenni hyn i gynorthwyo pobl i wella eu bywydau drwy gyfrwng cyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant, profiad gwaith a chyflogaeth.

Mae Neville, Ed ac Ian i gyd wedi wynebu heriau yn eu bywydau. Cafodd Neville, sy’n 55 oed, chwalfa nerfol a arweiniodd ato’n ceisio lladd ei hun. Nid yw wedi gallu gweithio am 20 mlynedd. Bu Ed, sy’n 38 oed, yn brwydro’n erbyn ei ddibyniaeth ar gyffuriau am fwy nag 20 mlynedd. Mae Ian, sy’n 56 oed, yn awtistig ac mae wedi dioddef iselder difrifol.

Mae Ed a Neville, gyda chymorth ariannol Gweithffyrdd+ a chefnogaeth gan Wendy Fitzpatrick, Mentor Gweithffyrdd+, wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs ‘trafod strimiwr yn ddiogel’ ac maent yn awr wedi cymhwyso. Yn ychwanegol at hyn, cynorthwyodd Gweithffyrdd+ Ed i gael swydd â thâl fel golchwr llestri mewn caffi lleol, ac mae wrth ei fodd gyda hyn.

Dywedodd y cyfranogwr, Neville, “Mae wedi bod yn wych gallu ennill cymhwyster - mae wir wedi gwneud i fi deimlo’n fwy hyderus. Mae Gweithffyrdd+ wedi bod yn rhagorol.” Ychwanegodd y cyfranogwr, Ed, “Roedd ochr gymdeithasol y cwrs yn ardderchog ac mae ennill y cymhwyster yn gyflawniad. Mae mynd allan i’r awyr iach a chynorthwyo’r gymuned yn rhywbeth yr ydw i’n ei fwynhau’n fawr. Dydw i ddim yn meddwl y gallwn fod wedi gwneud hyn heb gymorth Gweithffyrdd+.”

Dywedodd Gary Yeomans, Rheolwr Canolfan Kinora, “Mae Kinora wedi cael cefnogaeth Gweithffyrdd+ dros y flwyddyn ddiwethaf i gefnogi pobl i ennill ystod o gymwysterau er mwyn magu hyder a’u paratoi nhw i wirfoddoli neu i gael mynediad i gyflogaeth. Maent wedi cefnogi pobl drwy’r holl broses, o lenwi ffurflenni i fod yno ar ddiwrnod yr hyfforddiant. Maent wedi dangos ymroddiad, amynedd a hiwmor yn y ffordd y maent wedi cefnogi pobl.”

Mae Kinora, canolfan adfer iechyd meddwl sydd wedi’i lleoli yn Aberteifi, yn cynnig cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sydd eu hangen. Mae’n agored ar bedwar diwrnod yr wythnos (Llun, Mawrth, Iau a Gwener) ac un noson yr wythnos (Mercher) gan weithredu fel canolfan galw heibio lle’r estynnir croeso i bawb.

Roedd Ian, cyfranogwr arall o Kinora a dderbyniodd gefnogaeth gan Gweithffyrdd+, am gynorthwyo Kinora drwy ddarparu cefnogaeth Cymorth Cyntaf ar y safle. Mae Gweithffyrdd+ wedi ariannu hyfforddiant i Ian fynd ar gwrs Cymorth Cyntaf.

Dywedodd Ian, “Rwy wrth fy modd yn mynd i Kinora - mae naws mor gyfeillgar yma. Mae pawb yn cyfrannu yn ei ffordd ei hun. Mae Gweithffyrdd+ wedi bod yn gefnogol iawn ac nid yn unig wrth gynorthwyo i ariannu’r cwrs. Rwy’n falch iawn o allu darparu Cymorth Cyntaf yn awr.”

Aeth Gary Yeomans yn ei flaen i ddweud “Mae’r cyrsiau a gwblhawyd eleni yn cynnwys defnyddio ‘strimiwr yn ddiogel’, cymhwyster sydd wedi’i achredu’n llawn a chwrs cymorth cyntaf. Mae’r tîm Gweithffyrdd+ yn pwyllo wrth ddewis y darparwr hyfforddiant priodol i fodloni anghenion y defnyddiwr gwasanaeth. Mae ennill cymwysterau mor bwysig wrth baratoi ar gyfer y byd gwaith, ac ochr yn ochr â hyn, rydym wedi gweld gwelliant mewn hyder, hunan-barch a llesiant o ganlyniad i ennill cymwysterau.

“Hoffwn ddiolch i’r tîm Gweithffyrdd+, ar ran Kinora, am yr holl gymorth a chefnogaeth a gafwyd ganddynt eleni. Mae’r prosiect yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn yw Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd, “Mae'n wych gweld bod Ed, Neville ac Ian wedi cael cymorth i'w helpu i wneud cynnydd a gwella eu bywydau. Mae Gweithffyrdd+ yn ymrwymedig i fynd â'u gwasanaethau i'r gymuned a'u gwaith rhagorol gyda menter gymdeithasol Aberteifi, Kinora yn enghraifft wych o hyn. Byddwn yn gofyn i bobl sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli a chyflogaeth i gysylltu â Gweithffyrdd+a chael yr help sydd ei angen arnynt.”

Prosiect cyflogadwyedd yw Gweithffyrdd+ sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion. Mae mentoriaid Gweithffyrdd+ wedi’u lleoli ar draws y sir. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, trowch i http://www.workways.wales/?lang=cy-gb neu cysylltwch ag aelod o’r tîm ar 01545 574193 neu anfonwch e-bost at workways@ceredigion.gov.uk.

 

09/07/2019